Ysgolion a Phrifysgolion

Mae Tŷ Newydd yn trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl ac undydd i ysgolion cynradd, uwchradd, prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill. Mae pob cwrs yn unigryw.

Rydym yn gweithio gyda’r athrawon i drefnu cyrsiau wedi eu teilwra yn arbennig,  gan gynnig dewis o genre, cynnwys a thiwtoriaid addas ar gyfer y grŵp.

Mae Tŷ Newydd yn cynnig awyrgylch ysbrydoledig, yr amser, gofod a hunan-hyder i’r bobl ifainc archwilio eu potensial fel awduron. Byddant yn derbyn cyngor a mentora gan awduron proffesiynol ac yn mwynhau cyfleoedd i deimlo, ymateb a rhannu drwy ysgrifennu.

Bydd yna sesiynau grŵp, sesiynau un-i-un gyda’r tiwtoriaid, darlleniadau, a chyfle i’r disgyblion a’r myfywyr weithio’n unigol ar eu hysgrifennu.

Mae pawb yn byw gyda’i gilydd yn Nhŷ Newydd ar gyrsiau preswyl, ac mae’r awyrgylch yn hamddenol ac yn anffurfiol. Mae’r disgyblion a’r myfyrwyr yn helpu eu hunain i frecwast a chinio ac yn helpu, fel rhan o dîm, i baratoi un pryd fin nos i weddill y grŵp. Gallwn gysgu hyd at 20 o ddisgyblion neu fyfyrwyr.

Am fwy o wybodaeth, ac i drefnu cwrs i’ch ysgol neu’ch prifysgol chi, cysylltwch â ni: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522811.

Ein Cyrsiau

Dihangfa Di-Dechnoleg: Diffodd y Ffôn i Ddeffro’r Awen
Llu 10 Mawrth 2025 - Gwe 14 Mawrth 2025
Tiwtor / Siân Melangell Dafydd
Gweld Manylion
Encil Yoga y gwanwyn
Gwe 4 Ebrill 2025 - Sul 6 Ebrill 2025
Tiwtor / Richard Fowler
Gweld Manylion
Encil Di-diwtor y gwanwyn
Llu 7 Ebrill 2025 - Gwe 11 Ebrill 2025
Gweld Manylion