Croeso i Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd

Tŷ Newydd yw Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru. Ers agor ein drysau yn 1990, mae miloedd o awduron wedi camu dros drothwy ein drws gwyrddlas eiconig.

Ein arbenigedd yw trefnu cyrsiau ysgrifennu creadigol preswyl. Rydym yn croesawu grŵp newydd i’n cartref bob wythnos – yn gymysgedd unigryw o unigolion o Gymru, y Deyrnas Unedig, a phob cwr o’r byd. Maent yn treulio amser gyda’i gilydd dan arweiniad awduron proffesiynol, yn cymryd rhan mewn gweithdai a thiwtorialau un-i-un, yn mwynhau darlleniadau, ac yn ymhyfrydu yn awyrgylch ysbrydoledig Tŷ Newydd.

Darllen Mwy


Porwch drwy ein Cyrsiau

Mae gennym ddewis eang o gyrsiau ac encilion ar gael yn Nhŷ Newydd. Cymrwch olwg i weld beth sydd ar gael.

Gweld pob Cwrs
Bod yn Ddewr yn eich Ysgrifennu
Llu 7 Medi 2026 - Gwe 11 Medi 2026
Tiwtoriaid / Cynan Jones, James Scudamore
Darllenydd Gwadd / Eimear McBride (Digidol)
Gweld Manylion
Cwrs undydd: Y grefft o gyfieithu creadigol
Sad 12 Medi 2026
Tiwtor / Esyllt Angharad Lewis
Gweld Manylion
Ysgrifennu’r Profiad Dosbarth Gweithiol
Llu 14 Medi 2026 - Gwe 18 Medi 2026
Tiwtoriaid / Ali Millar, Adelle Stripe
Darllenydd Gwadd / Anthony Shapland (Digidol)
Gweld Manylion
Encil Nofio Gwyllt (Medi)
Gwe 18 Medi 2026 - Sul 20 Medi 2026
Tiwtor / Emma Senior (Wild Wales)
Gweld Manylion
Creu ffuglen o chwedloniaeth: Ail-adrodd, ail-ddychmygu, ail-ddyfeisio
Llu 21 Medi 2026 - Gwe 25 Medi 2026
Tiwtoriaid / Claire North, Laura Shepperson
Darllenydd Gwadd / Jennifer Saint (Digidol)
Gweld Manylion

Ein Blog

Gwe 4 Medi 2026 / ,
Bydd drysau Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Tŷ Newydd ar agor i’r cyhoedd ar brynhawn Sul 27 Medi rhwng 1.30pm-5.00pm, fel rhan o raglen Drysau Agored CADW. Bydd...
Gwe 17 Gorffennaf 2026 / , ,
Ymunodd Eben â ni ar Ynys Enlli ar gyfer cwrs arbennig dan ofal yr awdur a’r ecolegydd, Elinor Gwynn ar ddiwedd Mai. I ddarganfod mwy am...