Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II*, sydd â rhan ohono’n dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif. Fodd bynnag mae newidiadau yn y tŷ yn 2005 wedi galluogi mynediad i brif rannau’r tŷ hanesyddol a’r safle i ddefnyddwyr cadair olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd.
Mae dau faes parcio yn Nhŷ Newydd, a dau safle parcio anabl. O’r prif faes parcio mae llwybr gwastad yn arwain yr holl ffordd at ddrws blaen y tŷ haul, pellter o tua 15 medr. Oddi yno (y llawr gwaelod) gallwch ddefnyddio’r lifft i fynd i’r llawr is lle mae’r ystafell fwyta a’r ystafell lle cynhelir y rhan fwyaf o’r gweithdai. Mae’r lifft hefyd yn rhoi mynediad i’r llawr isaf un lle mae toiled i’r anabl; i’r llawr uchaf lle mae man eistedd a’r llyfrgell. Cynhelir y rhan fwyaf o weithdai grŵp yn yr Ystafell Fwyta neu’r Llyfrgell. O’r llawr gwaelod, gellir cael mynediad i’r ardd drwy ddrysau dwbl.
O’r maes parcio uchaf, mae llwybr pwrpasol yn arwain i’r ystafell wely wedi ei haddasu. Mae yna hefyd lwybr yn arwain yr holl ffordd i ddrws y Dderbynfa, pellter o tua 40 medr.
Mae’n ystafell wely hygyrch wedi ei lleoli ym mlaen Hafoty – ein hadeilad allanol lled iard o’r tŷ hanesyddol. Mae’r ystafell hon yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai ag anhawsterau symudedd, ac iddi ystafell wleb hygyrch drws nesaf gyda chawod, sinc a thoiled. Mae’r ystafell arall, sydd yn rhannu’r ystafell ymolchi, hefyd yn hygyrch ar gyfer unigolion sydd ag anhawsterau symudedd, neu yn berffaith ar gyfer cydlynydd personol.
Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â mynediad neu pa mor addas yw’r tŷ i’ch gofynion, cysylltwch â ni ar 01766 522811/ tynewydd@llenyddiaethcymru.org
I wylio taith o amgylch Tŷ Newydd, ewch i: Taith o amgylch Tŷ Newydd / Tŷ Newydd Tour – YouTube