Mae pentref bach Llanystumdwy yn gyfarwydd fel llecyn diwylliannol sydd wedi bod yn gartref i lu o enwogion creadigol dros y blynyddoedd megis yr artist Elis Gwyn Jones a Jonah Jones y cerflunydd, y dramodydd Wil Sam, y cyn Archdderwydd, WRP George a’r diweddar awdur Jan Morris.
Mae’n ardal fywiog yn ddiwylliannol, gyda digwyddiadau yn y Neuadd Bentref, neu Amgueddfa Lloyd George bob wythnos. Tafarn y Plu, ein tafarn gymunedol, yw calon y pentref ac mae croeso cynnes i’w gael yno bob amser.
O fewn tafliad carreg o Dŷ Newydd mae tref Cricieth, tref glan y môr brydferth â golygfeydd anhygoel o Fae Ceredigion ac Ardudwy. Mae cymaint ar gael i’w archwilio yn ystod eich arhosiad, o lecynau hanesyddol diddorol i’r Lôn Goed chwedlonol a ysbrydolodd rhan o gerdd enwog R Williams Parry, ‘Eifionydd’:
Eifionydd
O olwg hagrwch cynnydd
Ar wyneb trist y gwaith
Mae bro rhwng môr a mynydd
Heb arni straen na chraith,
Ond lle bu’r arad ar y ffridd
Yn rhwygo’r gwanwyn pêr o’r pridd.
Draw o ymryson ynfyd
Chwerw’r newyddfyd blin,
Mae yno flas y cynfyd
Yn aros fel hen win.
Hen, hen yw murmur llawer man
Sydd rhwng dwy afon yn Rhos Lan.
A llonydd gorffenedig
Yw llonydd y Lôn Goed,
O fwa’i tho plethedig
I’w glaslawr dan fy nhroed.
I lan na thref nid arwain ddim,
Ond hynny nid yw ofid im.
O! mwyn yw cyrraedd canol
Y tawel gwmwd hwn,
O’m dyffryn diwydiannol
Y dull y byd a wn;
A rhodio’i heddwch wrthyf f’hun,
Neu gydag enaid hoff, cytun.
R. Williams Parry