Mae Tŷ Newydd yn adeilad rhestredig Gradd II*, ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol yn y bymthegfed ganrif fel tŷ ffram bren lle mae’r ystafell fwyta nawr yn sefyll. Roedd yr aelwyd yng nghanol y tŷ ac roedd ystafelloedd atodol i baratoi bwyd a chysgu. Cyfnewidwyd y waliau pren yn hwyrach gan rai cerrig ac ychwanegwyd ail lawr. Mae wal fewnol o’r cyfnod hwn wedi ei ddarganfod yn ddiweddar ar y safle ac wedi ei ail-godi yn yr ystafell lle y byddai wedi sefyll bryd hynny. Mae adroddiadau’r plwyf o’r 16eg ganrif yn datgelu mai Rowland Owen oedd piau’r tŷ.
Cafodd y tŷ ei ailwampio yng nghanol y 1700au gan Robert Williams a’i fab William, a daeth y tŷ tri llawr a’i wyneb Sioraidd a welwch hyd heddiw yn dŷ mwy deniadol ac atyniadol i’r bonedd. Fodd bynnag daeth tro ar lewyrch Tŷ Newydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif wrth i ddiffyg atgyweirio gan denantiaid beri i’r tŷ fynd rhwng y cŵn a’r drain. Atgyweiriwyd ac adnewyddwyd y tŷ i gyd yn y 1940au cynnar gan y pensaer enwog Clough Williams-Ellis ar ran y cyn Brif Weinidog David Lloyd George PM.
Yn ystod yr 1980au hwyr, cychwynnodd y perchennog newydd – Sally Baker a’i phartner Elis – ar adfer y tŷ a’r gerddi o’i drawsnewidiad mewn i fflatiau gwyliau yn y 1960au. Drwy gydweithio â Chyngor y Celfyddydau, a gyda chymorth a gwaith caled y bardd Gillian Clarke a’i gŵr David, a hefyd yr awduron Meic Stephens and Robert Minhinnick, lansiodd Sally Tŷ Newydd fel canolfan ysgrifennu cenedlaethol Cymru yn 1990. Blodeuodd Tŷ Newydd yn ystod y 1990au gyda thîm ymroddedig o staff a rhaglen lwyddiannus o ddigwyddiadau yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn. Mae nifer o awduron nodedig wedi ymweld â Thy Newydd fel darllenwyr gwadd, tiwtoriaid a chyfranogwyr dros y blynyddoedd yn cynnwys Seamus Heaney, Menna Elfyn, Carol Ann Duffy, Mererid Hopwood ac Owen Sheers.
Gwelwyd adnewyddu pellach yn 2005 gydag adeiladu’r tŷ haul ag addnewyddu nifer o ystafelloedd, yn cynnwys yn Hafoty – adeiladau allanol hynafol y tŷ. Yn 2015 diweddarwyd rhai dodrefn a nodweddion mewnol y tŷ, a comisiynwyd gweithiau artistig newydd diolch i Grant Cyfalaf y Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru a grantiau pellach gan Sefydliad Teulu Ashley a’r Academi Gymreig.
Gellir darllen ymhellach am Dŷ Newydd a’i hanes, a gweld hen luniau sy’n perthyn i hanes y tŷ ar y paneli yng nhyntedd y tŷ wrth i chi gyrraedd.