Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin isod os gwelwch yn dda.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 522 811 neu e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Galli. Rydym yn annog unrhyw un sydd ag ysfa i ysgrifennu i fynychu cwrs yn Nhŷ Newydd. Bydd eich profiad yn rhoi syniad clir i chi o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn awdur, a gobeithio y byddwch yn gadael â storfa o sgiliau er mwyn rhoi cychwyn arni. Boed yn fardd sydd am ysgrifennu ar gyfer y sgrîn am y tro cyntaf, neu’n unigolyn sydd yn ymddiddori mewn llên ond erioed wedi ysgrifennu, mae croeso i bawb yn Nhŷ Newydd.
Oes – bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn berthnasol i chi, a bydd y rhan fwyaf o’r cyrsiau yn cynnig tiwtorialau un-i-un fydd yn gwthio eich crefft ymhellach eto. Mae sawl awdur cyhoeddedig yn cydnabod fod Tŷ Newydd wedi chwarae rhan unigryw yn eu gyrfa, ac yn dychwelyd ar gyrsiau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’n cyrsiau i’w gweld ac ar gael i’w harchebu yma.
Mae’r pynciau, themâu, genres, ffurfiau ac arddulliau a gaiff sylw yn rhaglen Tŷ Newydd yn amrywio’n fawr. Rydym yn deall fod mynychu cwrs yn golygu rhoi o’ch amser ac ymrwymo’n ariannol, felly rydym yn eich gwahodd i gysylltu â ni os hoffech drafod hyn ymhellach. Byddwn yn fwy na pharod i’ch cynghori, ac os oes angen, gallwn eich rhoi mewn cyswllt â’r tiwtoriaid.
Fel arfer, cynhelir cwrs preswyl wythnos o hyd o nos Lun hyd fore dydd Gwener, ond cymrwch olwg ar ddisgrifiadau unigol pob cwrs er mwyn gwirio manylion eich cwrs chi. Byddwch yn mwynhau gweithdai grŵp, darlleniadau a thiwtorialau unigol. Ond bydd yna ddigonedd o amser hefyd i ganolbwyntio ar eich gwaith eich hun, i gerdded ac i grwydro’r ardal brydferth hon. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am wythnos arferol yn Nhŷ Newydd.
Tra bo’r cyrsiau a gaiff eu tiwtora yn cynnig datblygiad dwys yn eich crefft, mae’n encilion yn eich caniatáu i ysgrifennu ar eich liwt eich hun. Efallai eich bod am gychwyn nofel; gwneud yr ychwanegiadau olaf i’ch casgliad o gerddi; neu roi cynnig ar syniad cwbl newydd mewn lleoliad gwahanol, ymhell o brysurdeb bywyd. Ar encil, cewch lonydd a thawelwch i weithio ar eich prosiect eich hun. Rydych wedi eich amgylchynu â natur, felly mae gennych rwydd hynt i fynd i grwydro heb unrhyw gyfyngiadau. Bydd yna gyfle heb os i drafod eich gwaith ag awduron eraill dros swper hefyd pe dymunech, ac mae gan y rhan fwyaf o’n encilion awduron preswyl all gynnig cymorth. Bydd gennych eich ystafell eich hun, a phrydau cartref wedi’u paratoi ar eich cyfer. Mae’n encilion ar gael i’w harchebu nawr, neu gallwch drefnu i aros yn ein Bwthyn Encil Hunan-Arlwyo, Nant.
Mae nifer y mynychwyr ar y cyrsiau yn dibynnu ar y math o gwrs a’i batrwm. Y mwyafrif rydym yn ei ganiatáu ar gwrs preswyl yw 14. Ond gall y grŵp fod yn llawer llai.
Chaiff neb eu gorfodi i ddarllen, ond dywedir dro ar ôl tro pa mor fanteisiol yw gwneud hynny. Bydd gwrando ar eraill yn darllen eu gwaith hefyd yn un o’r amryw ffyrdd y byddwch yn cael eich ysbrydoli.
Rydym yn argymell i chi fynychu pob gweithdy. Bydd pob cwrs yn cael ei strwythuro ar ffurf taith gynyddol, felly gallai colli sesiynau olygu eich bod yn methu pwnc cyswllt pwysig. Os nad yw’r gweithdai yn apelio, efallai y byddai encil yn fwy addas i chi.
Chi sydd i ddewis hyn. Weithiau bydd tiwtoriaid yn gosod tasgau lle y bydd disgwyl i chi ysgrifennu darnau o fewn cyfyngiadau amser, ar gyfer gweithdy fel arfer.
Cedwir ein casgliad llenyddol mewn dau leoliad yn y tŷ: yn y brif lyfrgell ar y llawr cyntaf a’r Lolfa Lên ar y llawr isaf. Mae ein casgliad amrywiol yn cynnwys ffuglen (nofelau a straeon byrion), barddoniaeth, bywgraffiadau, hunangofiannau, dramâu a gweithiau ffeithiol-greadigol. Mae croeso i chi fenthyg llyfrau o’r casgliad tra’r ydych yn Nhŷ Newydd. Dylid dychwelyd pob llyfr i’r llyfrgell briodol pan fyddwch yn gadael.
Os oes yna unrhyw ffyrdd penodol y dylech baratoi, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw. Weithiau bydd tiwtoriaid yn rhannu rhestr darllen, neu ofyn i fynychwyr ddod ag enghraifft o’u gwaith neu waith ar ei ganol gyda nhw.
Oes, mae gan bawb ystafell eu hunain. Mae gennym haenau gwahanol o ystafelloedd, sy’n amriwio mewn pris. Bydd cyfle i chi ddewis pa fath o haen (ar sail pris) wrth archebu, yna, bydd yr ystafelloedd o fewn yr haen hwnnw yn cael eu rhannu ar hap rhwng yr unigolion rhieny sydd wedi dewis ystafell o’r math hwnnw.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglyn â’r opsiynau llety.
Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau ar gyfer ystafelloedd penodol.
Bydd hyn yn dibynnu ar eich lleoliad yn Nhŷ Newydd. Mae yna ystafelloedd ymolchi preifat mewn rhai ystafelloedd, tra bo eraill yn rhannu. Os mai ystafell sydd yn rhannu ystafell molchi sydd gennych chi, ni fyddwch yn rhannu’r ystafell molchi honno gyda dim mwy nag un person arall.
Bydd Tŷ Newydd yn darparu un tywel bath ym mhob ystafell. Os bydd angen set ffres arnoch yn ystod eich arhosiad, byddwn yn gofyn yn garedig am gyfraniad o £5.
Oes. Mae yna lifft â mynediad pwrpasol i brif ardaloedd cymunedol y tŷ – ac eithrio’r gegin – ar gyfer rhai sydd â thrafferthion cerdded. Mae gennym lofft wedi ei haddasu yn arbennig wedi ei lleoli yn nhu blaen ein hadeilad allanol, gyferbyn â’r prif dŷ. Mae’r ystafell hon yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a rhai sydd â thrafferthion cerdded, gydag ystafell wlyb arbennig drws nesaf iddi gyda chawod, sinc a thoiled. Am wybodaeth bellach ynglŷn â hygyrchedd cliciwch yma, neu ffoniwch 01766 522 811 i drafod anghenion penodol.
Ydi. Cysylltwch gyda ni am ragor o wybodaeth ac i drafod eich anghenion ymhellach.
Nag oes. Rydym yn argymell eich bod yn dod â’ch dyfeisiau, a deunyddiau ysgrifennu eich hun gyda chi. Os ydych angen argraffu eich gwaith, gellr gwneud hyn gan ddefnyddio Cô’ Bach (USB) neu drwy e-bostio aelod o staff sy’n bresennol y diwrnod hwnnw.
Oherwydd ein bod wedi’n lleoli yng nghefn gwlad, gall ein signal ffôn fod yn ddiffygiol ar brydiau. Os ydych angen gwneud galwad ffôn yn ystod eich arhosiad gallwch ddefnyddio ffôn y swyddfa. Os yw’ch teulu neu ffrindiau am gael gafael arnoch, gallant ffonio swyddfa Tŷ Newydd (01766 522 811) yn ystod oriau swyddfa (9.30 am-5.30pm).
Mae Tŷ Newydd wedi ei leoli mewn ardal brydferth yng ngogledd-orllewin Cymru.
Rydym yn annog i’n gwesteion teithio ar drafnidiaeth cyhoeddus, a rhannu tacsi, i leihau ein ôl troed carbon.
Am fanylion llawn o sut i ddod o hyd i ni, cliciwch yma.
Brecwast, cinio a swper yn ddyddiol. Gallwch hefyd helpu eich hun i ffrwythau, bisgedi a byrbrydau eraill yn ystod y dydd. Hunanwasanaeth yw brecwast, gyda digonedd o ddewis; gweinir cinio ar ffurf buffet, a bydd swper gyda’r nos yn cynnig digon o opsiynau i weddu anghenion pawb. Ar gyrsiau wythnos, ysgolion a phrifysgolion, bydd mynychwyr yn helpu gyda ddyletswyddau’r cegin.
Gallwn. Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion pan fyddwch yn archebu eich lle, ac fe wnawn yn siŵr fod yna ddigonedd o opsiynau ar gael ar eich cyfer. Mae gan ein tîm arlwyo flynyddoedd o brofiad yn darparu prydau ar gyfer amrywiaeth ddyrys o anghenion.
Mae Tŷ Newydd yn darparu gwin gyda’r swper cyntaf ar gyrsiau preswyl. Nid oes gennym drwydded i werthu alcohol, ond mae yna nifer o siopau lleol yng Nghricieth sydd yn gwerthu gwin. A dim ond dafliad carreg i ffwrdd mae’r dafarn bentref gyfeillgar, Y Plu yn Llanystumdwy.
Os ydych wedi penderfynu dod ar gwrs, gallwch archebu eich lle yn sydyn a diffwdan arlein ar ein gwefan. Os fyddai well gennych chi siarad â rhywun wrth archebu, ffoniwch ni ar 01766 522 811 neu ebostiwch tynewydd@literaturewales.org
Pan fyddwch yn archebu eich lle, byddwn yn gofyn am flaendal. Ni fydd yn bosib ad-dalu na throsglwyddo’r blaendal hwn wedi i chi gadarnhau eich lle. Bydd y balans yn ddyledus chwe wythnos cyn cychwyn y cwrs. Os byddwch yn canslo wedi’r dyddiad hwn, ni fydd y balans yn cael ei ad-dalu, oni bai fod eich lle ar y cwrs yn cael ei lenwi. Gallai fod yn fuddiol i chi drefnu eich yswiriant eich hun rhag ofn i’r broblem hon godi. Mae Llenyddiaeth Cymru’n cadw’r hawl i ganslo cwrs hyd at dair wythnos cyn cychwyn y cwrs. Yn yr achosion hyn, gwneir ad-daliad llawn. I ddarllen ein holl amodau a thelerau archebu, cliciwch yma.