Telerau ac Amodau Archebu

Telerau ac Amodau Archebu

Mae’r holl amodau a’r telerau hyn yn ddilys i bob archeb a wneir arlein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

 

Ffioedd

  • Mae blaendal yn ddyledus ar gyfer pob archeb i gadw eich lle, heblaw y nodir yn gwahanol ar ddisgrifiad y cwrs, e.e. Cwrs Undydd (lle mae’r ffi llawn yn ddyledus). Nid ydym yn ad-dalu nac yn trosglwyddo blaendal i gyrsiau eraill.
  • Pe baech angen newid dyddiadau eich cwrs neu’ch encil, ac os oes dyddiadau ar gael, mae modd gwneud hynny am ffi gweinyddu o £25.
  • Mae’r balans llawn yn ddyledus 6 wythnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs. Os ydych yn ansicr sut i dalu eich balans, plîs cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru. Pe bydd y taliad balans yn hwyr, mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i gadw eich blaendal a chanslo eich archeb.
  • Os ydych yn canslo eich lle o fewn 6 wythnos i ddyddiad cychwyn y cwrs, bydd y balans ond yn cael ei ddychwelyd i chi (minws y blaendal) pe byddai’r cwrs yn llawn dop, a’ch lle felly yn cael ei lenwi.
  • Mewn achosion arbennig, mae Llenyddiaeth Cymru yn fodlon derbyn taliad am gwrs mewn rhandaliadau. Bydd rhaid gwneud cais i dalu am gwrs mewn rhandaliadau wrth archebu, a cyfrifoldeb y cwsmer yw i greu archeb sefydlog i gydymffurfio â’r cytundeb sydd wedi ei wneud am y taliad â Llenyddiaeth Cymru. Pe na bydd cwsmer yn creu archeb sefydlog, neu os fydd yn methu taliad, mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo’r archeb. Rhaid i bob cais am Ysgoloriaeth gael ei wneud cyn archebu lle ar gwrs. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Ysgoloriaethau ar wefan Tŷ Newydd.
  • Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cwrs hyd at bythefnos cyn y dyddiad cychwyn. Mewn achosion prin o’r fath, bydd ad-daliad llawn yn cael ei wneud i chi. Ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn cyfrannu at unrhyw gostau teithio sydd wedi eu colli o ganlyniad i ganslo cwrs.
  • Rydym yn awgrymu yn gryf y dylai bob cwsmer drefnu yswiriant personol i ofalu am ddigwyddiadau annisgwyl a all olygu fod cwsmer yn colli ffi neu arian. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod yr yswiriant a brynir yn addas i’r pwrpas.

Y Cyrsiau

  • Caiff amlinelliad o gynnwys y cwrs wedi ei ysgrifennu gan y tiwtoriaid, a bywgraffiadau’r tiwtoriaid eu darparu ar wefan Tŷ Newydd. Os am fwy o wybodaeth am y cwrs, gallwch gysylltu â Thŷ Newydd – rydym yn annog sgwrs ynglŷn â pha gwrs sy’n addas i wahanol unigolion. Cyfrifoldeb y cyfranogwr yw penderfynu pa gwrs sy’n addas ar eu cyfer hwy. Ni fydd Llenyddiaeth Cymru yn ad-dalu unrhyw ffioedd os fydd cyfranogwr yn penderfynu gadael cwrs, neu os yw cyfranogwr yn anhapus gyda chynnwys y cwrs.
  • Mewn achosion prin lle fydd tiwtor yn canslo, mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i wneud newid addas i’r rhaglen. Bydd unrhyw newid yn cael ei gyfathrebu i’r cyfranogwyr. Ni fydd newid tiwtor yn reswm dilys dros roi ad-daliad i gyfranogwr.

Ymddygiad

  • Mae Llenyddiaeth Cymru yn cadw’r hawl i ofyn i gyfranogwr adael Tŷ Newydd os yw yn ymddwyn yn anaddas. Mae hyn yn cynnwys bod dan ddylanwad cyffuriau, neu ddylanwad afresymol alcohol. Bydd unrhyw gyfranogwr sy’n ymddwyn yn ymosodol, diraddiol neu aflonyddgar tuag at staff Llenyddiaeth Cymru, cyd-gyfranogwyr neu’r tiwtoriaid yn wynebu cael eu gyrru o Dŷ Newydd heb ad-daliad.

 Iechyd a Diogelwch

  • Cyfrifoldeb y cyfranogwr yw cyrraedd Tŷ Newydd ar noson gyntaf y cwrs mewn pryd ar gyfer y swper cyflwyniadol, lle bydd aelod o staff Llenyddiaeth Cymru yn rhoi sgwrs am iechyd a diogelwch, yn cynnwys y drefn ymateb i dân. Os yw’r cyfranogwr yn methu’r sgwrs hon gan eu bod yn hwyr, mae’n rhaid iddi/iddo ofyn i aelod o staff am y drefn iechyd a diogelwch.
  • Rydym yn darparu ar gyfer anghenion diet arbennig. Cyfrifoldeb y cyfranogwr yw i roi gwybod i Llenyddiaeth Cymru am unrhyw alergedd bwyd, alergedd cyffredinol, neu anghenion diet cyn eu ymweliad.

Llety

Bydd gwesteion yn dewis math o ystafell wrth archebu, e,e ystafell fawr, neu fach, ac yna caiff yr ystafelloedd eu dosbarthu ar hap gan aelodau o staff. Ni allwn dderbyn ceisiadau am ystafelloedd penodol, heblaw wrth gwrs am yr ystafell hygyrch i’r rhai sydd ei hangen. Gan fod hwn yn adeilad rhestredig Gradd II* rydym yn adolygu’r opsiynau gorau ar sut i wella ein cyfleusterau yn gyson, gan gymryd i ystyriaeth treftadaeth a hanes pensaernïol yr adeilad. Ni fyddwn yn ad-dalu unrhyw ffioedd os nad yw cyfranogwr yn hapus â’i ystafell.

Diogelu

  • Caiff Polisi Diogelu Llenyddiaeth Cymru ei weithredu yn Nhŷ Newydd. Gallwch ddarllen y polisi o wneud cais amdano. Mae Llenyddiaeth Cymru yn ymroddgar i warchod lles plant ac oedolion bregus wrth iddynt gymryd rhan ym mhob un o’u gweithgareddau.
  • Os bydd digwyddiad yn ymwneud â phlant, pobl ifanc neu oedolion bregus yn eich pryderu yn ystod eich cyfnod yn Nhŷ Newydd, rhowch wybod i Rheolwr Safle Tŷ Newydd ar unwaith.

Preifatrwydd a data

  • Mae eich manylion personol, yn cynnwys enw llawn, cyfeiriad post, rhif ffôn, cyfeiriad ebost, ac anghenion diet neu anghenion hygyrchedd yn cael ei gadw gan Llenyddiaeth Cymru ar sail cytundeb.
  • Nid oes unrhyw fanylion cardiau banc yn cael ei gadw gennym.
  • Mae eich holl fanylion personol yn ddiogel, ni chaiff dim ei rannu â thrydydd person, a caiff popeth ei gadw ar systemau electronig diogel.

Colled

  • Nid yw Llenyddiaeth Cymru yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golled o, neu niwed i eiddo cyfranogwyr, na niwed i’r cyfranogwyr eu hunain yn ystod eu arhosiad yn Nhŷ Newydd.

Cwynion

  • Byddwn yn gyrru ffurflen adborth i chi yn dilyn eich ymweliad. Mae yna hefyd flwch sylwadau yn y ganolfan.
  • Dylid cyfathrebu unrhyw gwynion difrifol am Dŷ Newydd mewn apwyntiad â Rheolwr Safle TŷNewydd yn ystod y cwrs. Cadwn yr hawl i ofyn i’r achwynwr ysgrifennu ei bryderon mewn llythyr cyn ymateb i’r gwyn. Byddwn yn ymateb i bob llythyr cwyn o fewn 10 diwrnod gwaith.
  • Gallwch hefyd yrru cwyn at Llenyddiaeth Cymru.
  • Ni fydd cwynion sy’n gwneud cais am ad-daliad yn cael eu hystyried os daw’r gwyn i law 10 niwrnod neu hwy ar ôl y cwrs.