Dyma ambell stori o enau rhai o’n cyn-fynychwyr am eu profiadau yn dilyn dod i Dŷ Newydd ar gwrs. Ymysg llwyddiannau rhai o’n awduron y mae mynd ymlaen i gyhoeddi llyfr, ennill gwobr am eu gwaith a cael y cyfle i berfformio yn gyhoeddus. Aiff rhai ymlaen i gynnal dosbarthiadau ysgrifennu creadigol eu hunain, a chynnal gweithdai gyda grwpiau yn eu cymunedau. I eraill, bu eu ymweliad â Thŷ Newydd yn ysgogiad i ail-afael yn eu perthynas â Chymru a’r Gymraeg. Dyma ddetholiad o’n straeon llwyddiant:
Dwi’n meddwl mai 1993 oedd hi pan gerddais i drwy ddrws Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am y tro cyntaf. Ro’n i wedi cael y gyts o’r diwedd i roi fy enw ar gwrs ‘Dechrau Ysgrifennu’, cwrs dan arweiniad John Rowlands a Harri Pritchard Jones. Ac mae’n dda gen i ddeud i’r profiad fod yn un diddorol, addysgiadol a hynod hwyliog, ac es i adre wedi fy ysbrydoli go iawn. Ro’n i wedi bod yn rhyw botsian sgwennu cyn hynny, ond y penwythnos yn Nhŷ Newydd roddodd i mi’r hyder a’r gic yn dîn ro’n i ei angen.
Ymhen blwyddyn neu ddwy (a chwrs arall neu saith – roedd gen i dipyn i’w ddysgu) ro’n i wedi magu digon o hyder i feddwl am sgwennu nofel. Nofel am ferched yn chwarae rygbi, a diawcs, mi werthodd reit dda, felly mi ges i’r hyder a’r awydd i sgwennu mwy wedyn: dros 30 cyfrol bellach. Fyddwn i’n awdures rŵan onibai am gyrsiau Tŷ Newydd? Dwi ddim yn siŵr.
Yn Nhŷ Newydd y ganwyd Blodwen Jones. Mae’r drioleg am honno wedi helpu miloedd (o ddifri, miloedd – mae’r llyfr cyntaf yn ei 9fed argraffiad) o oedolion sy’n dysgu Cymraeg i ddechrau mwynhau darllen llyfrau drwy gyfrwng eu hiaith newydd.
Braf ydi gallu gweithio a sgwrsio efo pobl o’r un anian â chi, ac mae hynny’n ran mawr o’r hyn sy’n gwneud Tŷ Newydd yn arbennig. Mae pawb sy’n sgwennu fymryn bach yn od, dach chi’n gweld. Wel, dydan ni ddim go iawn, ond mae’r rhan fwya o bobl sydd ddim yn sgwennu yn meddwl ein bod ni’n od, hyd yn oed ein ffrindiau agos a’n teuluoedd. Felly mae gallu cymdeithasu efo criw o bobl sydd i gyd fymryn bach fel chi yn falm ar yr enaid.
Ar ôl sbel, gofynwyd i mi fyddwn i’n fodlon bod yn diwtor yno fy hun. Argol, ges i sioc. Fi?! Ond ro’n i wedi cael cyfle i bigo chydig o dips gan awduron profiadol erbyn hynny, a dwyn syniadau gan bobl fel y diweddar Jan Mark a Valerie Bloom, Mihangel Morgan ac Aled Lewis Evans, felly mi gytunais, ac mi wnes i fwynhau pob eiliad. Dwi wedi cyd-gynnal sawl cwrs yno bellach, rhai ar gyfer pobl sy’n dysgu Cymraeg hefyd, ac er ei fod o’n waith caled, mae’n fraint gallu helpu cyw-awduron eraill i ennill yr hyder a’r sgiliau i ddal ati. O, ac mae’r tâl o gymorth mawr i rywun sy’n ceisio crafu bywoliaeth drwy sgwennu rhyddiaith yn Gymraeg.
Yn y bôn, mae Tŷ Newydd yn drysor cenedlaethol.
– Bethan Gwanas
Mae llefydd fel Tŷ Newydd yn amhrisiadwy i bobl sy’n mwynhau sgrifennu fel fi. Mynd yno ar gwrs sgriptio wnes i gydag Aled Jones Williams a Sarah Bickerton. Roedd cael cyfle i gymysgu gyda phobol debyg a bwrw syniadau ar bapur mewn lleoliad mor fendigedig yn werth y wâc o Bencarreg. I mi trwy ryw ryfedd wyrth, llwyddodd yr egin syniad a gefais yn Nhŷ Newydd i dyfu yn sgript lwyddodd i gipio’r Fedal Ddrama eleni. Rwy’n athrawes ers nifer o flynyddoedd bellach ond roedd cael bod yn sgidiau’r disgybl yn bwysig ofnadwy yn y broses greu. Mae Tŷ Newydd yn rhoi cyfle i awduron hen a newydd i rannu’r un bwrdd. Rwy’n ddiolchgar iawn am hynny.
– Heiddwen Tomos, Prif Ddramodydd Eisteddfod Genedlaethol Môn 2017.
Mae gen i goblyn o ddyled i Harri Pritchard Jones gan iddo, ar y cwrs cyntaf nes i fynychu yn Nhŷ Newydd, fy nghymryd o ddifri fel sgwennwr. Dyna a wnaeth i minnau gymryd fy sgwennu o ddifri. Hyd yn oed rŵan, ddegawdau’n ddiweddarach, os dw i’n dechra amau fy hun mae dychmygu gwyneb Harri PJ yn help. Fyswn i wedi meiddio dangos fy ngwaith iddo petawn i heb ddod i Dŷ Newydd? Na fyswn siŵr. Mi oeddwn i mor ddihyder go brin y byswn i wedi dod i Dŷ Newydd petawn i heb ennill y cwrs cyntaf hwnnw mewn cystadleuaeth.
Bellach dw i’n ennill fy mywoliaeth trwy sgwennu, dw i wedi gweithio yn Nhŷ Newydd mewn swydd weinyddol a dw i hyd yn oed wedi tiwtora yno. Dw i wedi gweld dro ar ôl tro yr hyn sy’n gallu digwydd mewn lle sydd yn bodoli yn unswydd ar gyfer helpu sgwennwyr – lle y mae pawb, nid yn unig y tiwtoriaid ond y staff gweinyddol, y cogydd, pawb, yn deall mai sgwennu sydd yn bwysig yn ystod yr wythnos neu’r penwythnos hwnnw.
– Sian Northey, Awdur ac Ymarferydd Creadigol
Deuthum ar draws hysbyseb ar gyfer cwrs cynganeddu Tŷ Newydd 2016 ar y we chwe mis ar ôl graddio, pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain. Ymddangosodd y cwrs cynganeddu fel cyfle i ailgynnau fy fflam greadigol a fy niddordeb mewn barddoniaeth, a hefyd fel cyfle i ddychwelyd i Gymru a’r Gymraeg.
Cyrhaeddais Dŷ Newydd heb allu ysgrifennu cymaint â’r gynghanedd lusg symlaf, a heb gael cyfle i siarad fawr o Gymraeg ers symud i Loegr yn 2011, a gadewais wedi ysgrifennu cywydd ddeuddeg llinell ac englyn, wedi ymdrochi’n llwyr mewn byd barddoniaeth Cymraeg ac yn benderfynol o ddychwelyd i Gymru cyn gynted â phosib.
Blwyddyn yn ddiweddarach ac rwy hanner ffordd drwy M.A. Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. [darllen mwy]
– Judith Musker Turner
Clywais am Dŷ Newydd gan ddwy ffrind a fu yno y llynedd. Roedd y ddwy’n frwdfrydig iawn am eu profiad, ac yn fy annog i wneud cwrs ysgrifennu creadigol yno. Felly, penderfynais roi cynnig ar wneud gwaith creadigol yn y Gymraeg (a dianc o’r brifddinas am benwythnos!).
Bu’r ysgoloriaeth yn gymorth hynod o bwysig i mi allu gwneud y cwrs yn Nhŷ Newydd. Gallaf ddweud mai yn Nhŷ Newydd y des i o hyd i awyrgylch delfrydol i wneud gwaith creadigol. A buaswn i’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu i dreulio amser yno.
Y peth gorau i mi, yn bersonol, oedd mai yn ystod y penwythnos hwnnw y llwyddais i ysgrifennu cerdd a ddaeth yn fuddugol yn Eisteddfod Trevelin eleni ac ennill cadair am y tro cyntaf erioed. Y tro nesaf hoffwn wneud cwrs hirach, er mwyn cael cyfle i ddatblygu syniadau a chael hyfforddiant dyfnach.
– Sara Borda Green, Prifardd Eisteddfod Trevelin 2017