Rydym yn deall gwerth amser, gofod, a heddwch a thawelwch i awduron a chredwn y dylai pawb gael mynediad cyfartal at y rhain yn ystod eu proses greadigol. Mae dwy o brif flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru yn cynnwys mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol o fewn sector llenyddol Cymru a hyrwyddo’r Gymraeg. Dyna pam yr hoffem gynnig arosiadau am bris gostyngol o bryd i’w gilydd ym Mwthyn Encil Awduron Nant ar gyfer awduron sy’n cael eu tangynrychioli yn niwylliant llenyddol Cymru a/neu sy’n ysgrifennu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut mae’n gweithio?
Anogir awduron cymwys i lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein fer ganlynol. Yn dilyn hyn, bydd staff Llenyddiaeth Cymru yn gwirio’r ffurflenni i weld a ydynt yn gymwys a bydd pob awdur cymwys yn cael ei ychwanegu at restr ganolog (mewnol). Byddwn yn cysylltu â’r rhestr awduron hwnnw cyn gynted ag y bydd arhosiad yn y Nant yn dod ar gael. Bydd lleoedd yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin.
Sylwch, er y byddwn bob amser yn ymdrechu i roi cymaint o rybudd â phosibl, weithiau bydd lleoedd ar gael funud olaf, ac am gyfnod penodol yn unig.
Pwy all gofrestru?
Mae’r cyfle hwn yn agored i unigolion dros 18 oed sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae croeso i awduron ar bob cam o’u gyrfa ysgrifennu gofrestru ar gyfer y cyfle hwn.
Hoffem glywed yn arbennig gan:
Rydym yn deall nad yw hon yn rhestr gyflawn, ac rydym yn croesawu unrhyw un sy’n ystyried eu hunain yn cael eu tangynrychioli i egluro eu cefndir a’r rhwystrau y maent wedi’u hwynebu yn eu geiriau eu hunain o fewn y ffurflen gofrestru.
I gael rhagor o wybodaeth am Fwthyn Encil Awduron Nant, darllenwch drwy ein Cwestiynau Cyffredin. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru ar 01766 522 811 neu e-bostiwch tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Hygyrchedd
Sylwch nad yw Bwthyn Nant ar hyn o bryd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai â symudedd cyfyngedig. Pe bai hyn yn berthnasol i chi, rydym yn eich annog i barhau â’ch ffurflen gofrestru gan y byddwn yn ymdrechu i ddod o hyd i drefniadau eraill i chi er mwyn sicrhau arhosiad diogel a chyfforddus. Gallwch ddarllen mwy am hygyrchedd Tŷ Newydd ar ein gwefan.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 01766 522 811 / tynewydd@llenyddiaethcymru.org i sgwrsio ag aelod o staff.