Tystlythyrau
Dyma gasgliad o dystlythyrau diweddar gan ein gwesteion. Mae’r geirdaon yn eu hiaith wreiddiol. I ddarllen tystlythyrau sydd wedi eu rhoi drwy gyfrwng y Saesneg, cliciwch yma. Neu i yrru dyfyniad atom, ebostiwch tynewydd@llenyddiaethcymru.org
Archif ein Tystlythyrau
” Mae Tŷ Newydd yn cynnig hafan gyfforddus dawel i gyd drafod creadigol heb bwysau’r byd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Benwythnos Ysgrifennu Ffuglen hefo Manon Steffan Ros a Llwyd Owen 2022
“Penwythnos ysbrydoledig. Profiad bythgofiadwy.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Benwythnos Ysgrifennu Ffuglen hefo Manon Steffan Ros a Llwyd Owen 2022
“Dyma un o fy hoff benwythnosau o 2022! Nes i wirioneddol fwynhau. Mae Ty Newydd yn lle mor arbennig ac roedd gallu dod i nabod pobl ifanc eraill yno, a rhannu syniadau creadigol yn wych. Dwi wedi argymell y lle i gymaint o bobl ers bod yno a dwi’n ysu i fynd yn ol!!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Olwen 2022
“Mae Tŷ Newydd o hyd yn rhoi rhyw deimlad o adnewyddu i mi”
– Cyfranogwr ar Encil Hydrefol 2022
“Derbyniais gymorth defnyddiol ac ymarferol i mi barhau gyda fy ‘sgwennu.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Angharad Tomos 2020
“Amrywiaeth – cyfle i wrando, sgwrsio, rhannu syniadau ac i ysgrifennu.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Angharad Tomos 2020
“Y tiwtor yn hwb enfawr i mi ddal ati gyda f’ysgrifennu.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Aled Jones Williams 2020
“Mae’r llonyddwch mor arbennig yma.”
– Cyfranogwr ar Encil y Gwanwyn 2020
“Y cyfle i ysgrifennu rhwng sesiynnau yn ddefnyddiol iawn.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020
“Cael rhannu’r profiad gyda chriw mor hyfryd, talentog a chefnogol.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Mentora Llenyddiaeth Cymru 2020
“Mae wedi bod yn amrhisiadwy ar sawl lefel – y cyngor a dysg, arbenigedd ac o ran cynyddu fy hyder.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Rhian Cadwaladr 2019
“Mae ymweld â Thŷ Newydd fel camu i fyd arall – cyfle i ymlacio a dianc am ychydig oriau.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Dechrau o’r Dechrau: Y Nofel, Llwyd Owen 2019
“Dw i bob tro’n gadael Tŷ Newydd wedi f’ysbrydoli, wedi mwynhau cwrdd â phob math o bobl, ac wedi cael hwb i’r hyder.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Manon Steffan Ros 2019
“Cafwyd cydbwysedd perffaith rhwng y sgyrsiau i’n rhoi ar ben ffordd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Dechrau o’r Dechrau: Y Nofel, Llwyd Owen 2019
“Cyfle i wneud yr hyn rwyf yn ei fwynhau fwyaf mewn awyrgylch bendigedig. Ni all unrhywbeth fod yn well!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Mesurau Caeth a Rhydd 2018
“Mae’r llonyddwch sydd yn Tŷ Newydd yn golygu bod modd i chi ymroi yn llwyr i’ch cwrs heb gael eich distractio. Mae Tŷ Newydd yn le da i feddwl, i gael bod yn greadigol ac i feithrin syniadau newydd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Newyddiaduraeth 2018
“Tiwtoriaid yn ffantastic. Wedi bod yn gyfle gwych i gael dysgu oddi wrthyn nhw ac fy nghyd-fyfyrwyr. Y ffaith ei fod yn gwrs preswyl yn arbennig, cwbwl wahanol i ddysgu mewn dosbarthiadau nos.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2017
“Cwrs gwych. Wedi mwynhau cael treulio cymaint o amser yn sgwrsio gyda’r beirdd. Diolch i Tony am y bwyd anhygoel!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2017
“Arbennig. Wedi dysgu llawer mewn amser byr. Lle cyfforddus i weithio.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2017
“Dwisho dod eto! Wedi mwynhau’r sgyrsiau difyr, a dod i nabod y criw a’r tiwtoriaid.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2017
“Ardderchog. Braf cael treulio amser mewn rhywle mor hyfryd, ymhell i ffwrdd o broblemau bob dydd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Ysgrifennu 2017
“Cwrs hwyliog, hefo digon o dasgau (ond nid gormod). Criw amrywiol, oedd yn gwneud gwrando arnyn nhw’n ddifyr. Tiwtoriaid hawdd iawn trafod â nhw. Bwyd bendigedig, ffres. Wedi mwynhau eistedd yn yr ardd, yn yr haul, yn ‘sgwennu.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Ysgrifennu Stori 2017
“Profiad arbennig gyda dwy awdures profiadol ond agos atoch – a rheiny yn gymeriadau!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Ysgrifennu Stori 2017
“Roedd yn gwrs ysbrydoledig, difyr, ac anffurfiol yn rhai agweddau – a hynny’n addas. Adnoddau gwerth chweil”
– Cyfranogwr ar Gwrs Ysgrifennu Stori 2017
“Cwrs a oedd yn datblygu sgiliau ac yn magu hyder. Tiwtoriaid gwych.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Ysgrifennu Stori 2017
“Roedd y ffaith i ni gael ysgrifennu yn y bore ac ymlacio / amser hamdden yn y prynhawn yn gweddu’n dda iawn. Roedd coginio Tony yn anhygoel.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cerddi ar ôl Cerddi 2017
“Tiwtor byrlymus, criw hwyliog a lleoliad godidog.”
– Cyfranwr ar Gwrs Undydd Chwedlau 2017
“Cwrs gwych! Dwi rioed wedi dysgu cymaint mewn cyn lleied o amser. Fy hoff beth oedd y foment o sylweddoli mod i newydd ‘sgwennu fy englyn cyntaf.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2016
“Roedd Ifor ap Glyn ac Ian Rowlands yn diwtoriaid cefnogol a diddorol tu hwnt, ac yn gallu trafod a chynghori ar bob cyfrwng.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Olwen 2016
“Diolch am y cyfle i weithio ar drawstoriad eang o gyfryngau gwahanol.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Olwen 2016
“Wnes i fwynhau’n ofnadwy, yn enwedig gyda chwmni mor dda. Roedd awyrgylch dysgu arbennig yno.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Olwen 2016
“Chwa o awyr iach yn wir. Braf oedd cael cymdeithasu, bwyta, dysgu a chysgu dan yr un to.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Cynganeddu 2016
“Mae’n anodd dychmygu dau diwtor gwell – amyneddgar tu hwnt gyda thasgau llawn dychymyg ac arbennigedd amlwg.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Rhyddiaith – Y Busnas Sgwennu ‘Ma 2016
“Y lleoliad yn hyfryd. Digonedd o gilfachau bach creadigol i ysgrifennu neu ddarllen ynddynt. Dwi’n dod nol!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Rhyddiaith – Y Busnas Sgwennu ‘Ma 2016
“Fy hoff beth am y cwrs oedd ei fod yn teimlo fel adref yma. Braf oedd cael amser i ganolbwyntio ac i ysgrifennu a chyfarfod pobl o’r un meddylfryd â mi tra’n mwynhau bwyd blasus Tony.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Rhyddiaith – Y Busnas Sgwennu ‘Ma 2016
“Roedd yn braf cael rhyddid a llonydd i fynd ar eich liwt eich hun, ond cael y cyngor gan y tiwtoriaid os oedd angen. Braf oedd cael y cyfle i ddod i adnabod pawb arall fin nos a chael y cyfle i esgor ar syniadau newydd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Sgriptio 2016
“Tiwtoriaid gwych. Agored, cefnogol, gwybodus oedd yn magu hyder mewn awyrgylch ymlaciol hebfod yn gaeth i amserlen benodol.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Sgriptio 2016
“Braf oedd rhannu syniadau gyda phobl o’r un meddylfryd â chi.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Barddoniaeth 2016
“Cwrs hynod o fuddiol. Braf cael cyfle i gamu nôl ac edrych ar rywbeth o’r newydd.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Barddoniaeth 2016
“Am ddiwrnod arbennig! Dwi wedi esgor ar sawl syniad newydd diolch i arweiniad trylwyr ond hamddenol y tiwtor.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Rhyddiaith 2016
“Braf oedd cael persbectif awdur gwahanol. Dwi wedi cael llawer o wybodaeth defnyddiol a digonedd o annogaeth ac ysbrydoliaeth. Diolch!”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Rhyddiaith 2016
“Cwrs ymarferol, ysbrydoledig a hapus braf. Roedd pawb yn elwa o gyngor ac arweiniad y tiwtor.”
– Cyfranogwr ar Gwrs Undydd Rhyddiaith 2016