Gwneud Gwahaniaeth
Holl bwrpas Tŷ Newydd yw i wasanaethu awduron. Ein gwaith dydd i ddydd yw darparu cyrsiau ysgrifennu creadigol o safon, yn y Gymraeg a’r Saesneg, i gynulleidfa o bob oed, gallu a chefndir.
Aiff ein awduron ymlaen i gyhoeddi eu gwaith, i ennill cystadlaethau, i berfformio eu gwaith mewn gwyliau a digwyddiadau, ac i gychwyn dosbarthiadau a grwpiau darllen eu hunain i addysgu eraill.
Mae ein cyrsiau preswyl yn cynnig trochi llwyr, gyda gweithdai, darlleniadau a sesiynau un-i-un yn cael eu cynnal trwy gydol yr wythnos. I rai, treulio amser yn y llyfrgell glyd tan yr oriau mân yn trafod barddoniaeth yw’r hyn sy’n gwneud eu harhosiad yn arbennig. I eraill, y codi’n gynnar i gerdded i lawr i’r traeth cyn gweithdai sy’n aros yn y cof. Beth bynnag yw eich profiad unigryw o Dŷ Newydd, byddwch yn gadael gyda’r sgiliau, y syniadau a’r egni i fynd â’ch ysgrifennu i’r cam nesaf. Gallwch glywed hanesion amrywiol o brofiad Tŷ Newydd gan wahanol unigolion ar ein tudalen tystydebau.
Yn ogystal â’n rhaglen flynyddol o gyrsiau, rydym yn trefnu ac yn cynnal o leiaf pedwar cwrs strategol rhad ac am ddim bob blwyddyn yn benodol ar gyfer awduron o Gymru sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y diwydiant llenyddol. Mae’r cyrsiau hyn yn cynnwys ein Cwrs Olwen blynyddol ar gyfer awduron ifanc sy’n dod i’r brig mewn cystadlaethau cenedlaethol, ein encil penwythnos LGBTQA+ Cymraeg a gynhelir mewn partneriaeth â Llyfrau Lliwgar, ein cwrs digidol Ail-ddyfeisio’r Prif Gymeriad a gynhelir mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru, ymhlith eraill. Gallwch ddarllen mwy am y cyrsiau hyn, eu heffaith ar gyfranogwyr, a gwybodaeth am alwadau yn y dyfodol drosodd ar dudalen prosiect Llenyddiaeth Cymru. Mae gennym hefyd gysylltiadau agos gydag Ysgol Gynradd Llanystumdwy, gyda’r ysgol gyfan yn ymweld â’r ganolfan sawl gwaith y flwyddyn. Nod y prosiectau hyn yw defnyddio llenyddiaeth i wella iechyd a llesiant, cenhadaeth sy’n ganolog i holl waith Llenyddiaeth Cymru.