Dewch o hyd i ni
Mae Tŷ Newydd ym mhentref Llanystumdwy, rhwng Cricieth a Phwllheli yng ngogledd Cymru.
Mae Tŷ Newydd ym mhentref Llanystumdwy, rhwng Cricieth a Phwllheli yng ngogledd Cymru.
Os ydych chi’n defnyddio what3words, gallwch ddod o hyd i ni yma:
///stocks.animator.factoring
Nid yw ein cod post yn dueddol o’ch arwain i’r ganolfan, felly defnyddiwch y cod post LL52 0SL a wnaiff eich arwain i bentref Llanystumdwy. Yna dilynwch yr arwyddion i Dŷ Newydd, neu dilynwch y cyfarwyddiadau manwl isod.
Yn teithio o’r de ar hyd yr A487:
Ar ôl pasio Porthmadog, dilynwch yr arwyddion i Gricieth a Phwllheli. Gyrrwch drwy dref Cricieth a dilyn y ffordd wedyn am Bwllheli am filltir.
Trowch i’r dde i bentref Llanystumdwy a chymryd yr ail droad i’r dde cyn y bont gul dros yr afon. Bydd y ffordd yn eich arwain heibio ceir wedi parcio, a dan ganopi o frigau coed.
Ar ôl 500 medr, trowch i’r dde wrth y giât wen a’r pileri carreg, a dilyn y lôn i Dŷ Newydd.
Yn teithio o’r gogledd ar hyd yr A487:
O Gaernarfon, dilynwch yr A487 am 12 milltir nes cyrraedd Bryncir. Gyrrwch drwy Fryncir, a chymryd troad i’r dde wrth adael y pentref am Gricieth ar y B4411.
Gyrrwch am 2.5 milltir, a chymryd de arall tuag at Lanystumdwy ar ôl pasio drwy Roslan. Dilynwch y ffordd at y gyffordd, a throi i’r chwith i mewn i bentref Llanystumdwy. Dilynwch y ffordd drwy’r pentref a throi i’r chwith ar ôl croesi pont gul dros yr afon. Bydd y ffordd yn eich arwain heibio ceir wedi parcio, a dan ganopi o frigau coed.
Ar ôl 500 medr, trowch i’r dde wrth y giât wen a’r pileri carreg, a dilyn y lôn i Dŷ Newydd.
Neu defnyddiwch y trefnydd taith uchod i ganfod eich ffordd atom.
Mae bysus Arriva yn gwasanaethu Llanystumdwy, Cricieth a’r ardal leol.
Gorsafoedd cyfagos: Cricieth (2 filltir) a Bangor (25 milltir).
Gallwn gynorthwyo’r rhai ohonoch sy’n teithio i orsaf drennau Bangor drwy drefnu tacsi i chi a’ch cyd-awduron am ar ddiwrnod cyntaf y cwrs. Gallwn drefnu trafnidiaeth yn ôl i Fangor ar ddiwrnod olaf y cwrs.
I’r rhai ohonoch sy’n teithio i Gricieth, gallwn drefnu eich codi o 3.00 pm a 5.00 pm ar y diwrnod cyntaf, a’ch gollwng wedyn am 9.30 am ar y diwrnod olaf.
Meysydd awyr cyfagos: John Lennon Lerpwl (105 milltir) a Maes Awyr Rhyngwladol Manceinion (113 milltir).
Rhowch wybod i ni ar ôl archebu lle ar gwrs os hoffech i ni drefnu tacsi i chi o Fangor neu Gricieth neu unrhyw le arall. Yn anffodus nid yw cost hwn yn gynwysedig yng nghost y cwrs, ond byddwn yn ceisio cadw costau’n isel gan grwpio teithiau tacsi.
Mae llongau yn teithio o Ddulyn i Gaergybi bedair gwaith y diwrnod.