Fel hen adeilad a safle rhestredig Gradd II*, mae ystafelloedd Tŷ Newydd yn amrywio o ran maint, lleoliad a chyfleusterau. Wrth archebu lle ar gwrs preswyl, gallwch ddewis y math o lety a ffafrir – a fydd, gobeithio, yn gwneud ein cyrsiau’n fforddiadwy i fwy o westeion, tra hefyd yn sicrhau gofod a chysur ychwanegol i’r rhai sy’n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy arbennig.
Mae ystafelloedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin o fewn yr haenau. Os ydych yn ymweld gyda ffrind neu bartner ac yn dymuno rhannu ystafell, cysylltwch â ni am opsiynau. Hefyd, os nad ydych yn gweld y math o lety sydd orau gennych fel opsiwn wrth geisio archebu cwrs, cysylltwch â ni i drafod.
Mae’r pedair ystafell en-suite yma wedi eu lleoli yn y prif dŷ, ac yn cynnwys y ddwy Brif Ystafell Wely – un oedd gynt yn eiddo i David Lloyd George, a’r llall yn eiddo i Frances Stevenson, ei ail wraig. Mae’r ddwy ystafell fawr arall yn llenwi hanner pob un o’r llofft, ac yn cynnwys ystafelloedd ymolchi newydd eu hadnewyddu. Mae’r ddwy ystafell yn y llofft bellach hefo gwely dwbl, ond mae angen i ni ddiweddaru’n lluniau(!)
Mae ystafell en-suite Yr Ardd wedi’i lleoli yn yr hen anecs. Mae ganddi wely dwbl mawr, a’i mynedfa ei hun yn edrych dros yr ardd wyllt a’r cae defaid cyfagos.
Mae ystafell wely Dafydd y Garreg Wen ar y llawr gwaelod yn y prif dŷ, ac yn agos i’r gegin. Ystafell ysgafn gyda gwely dwbl a desg fawr, ac mae ganddi ystafell ymolchi a rennir drws nesaf iddi (rhannu gydag un darpar westai, gweler yr ystafell isod drws nesaf).
Mae’r Ystafell Ddirgel hefyd yn y prif dŷ, gyda desg a gwely dwbl isel. Ystafell glyd, nenfwd isel gyda nodweddion hardd, mae ganddi fasn a thoiled. Mae ystafell ymolchi a rennir (gweler yr ystafell uchod) ar gael i gael mynediad i’r gawod.
Mae’r Coetiws yn yr anecs newydd, ac mae ganddo wely dwbl mawr. Ystafell hardd yn yr haf yn arbennig, mae’r ystafell yn rhannu ystafell wlyb gydag un darpar westai (union drws nesaf i’r ystafell).
*Sylwch fod yr ystafell ymolchi yn y llun uchod wedi’i huwchraddio i ystafell ymolchi fodern gyda chawod cerdded-i-mewn. Mae’r holl welyau wedi’u newid am rai dwbl, gyda dau o’r rheiny yn wlau dwbl mawr. Bydd lluniau’n cael eu diweddaru i adlewyrchu’r newidiadau maes o law.
Mae’r pedair ystafell hyn wedi’u lleoli yn yr hen anecs – ac mae pob un ohonyn nhw, heblaw am un, yn rhannu ystafell ymolchi gydag un darpar westai arall. Mae gan bob un ohonynt ddesgiau ysgrifennu, ac maent yn gyfforddus ac yn gynnes. Mae’r en-suite yn ystafell 13 wedi ei ddiweddaru’n ddiweddar, ond mae angen i ni dynnu llun ohono(!)
Mae ein bwthyn encil, Nant, yn aml yn cael ei archebu gan awduron unigol ar wahân i’n rhaglen gwrs. Fodd bynnag, os yw Nant yn digwydd bod ar gael yn ystod eich cwrs, a’ch bod awydd aros yn rhywle mwy moethus – cysylltwch â ni am ragor o fanylion. Nodwch fod Nant yn cynnwys ystafell ymolchi sydd yn cael ei rhannu rhwng y ddwy ystafell wely.
Wedi’i adnewyddu yn 2019, mae Nant yn fwthyn dwy ystafell wely gydag ardal gegin-fwyta gyfforddus gyda’i ddrws ffrynt ei hun.