Cynaladwyedd

Gwastraff ac Ailgylchu

Mae ailgylchu yn bwysig iawn i ni yma yn Nhŷ Newydd, a gofynnwn yn garedig i’n gwesteion wneud pob ymdrech i ddilyn y canllawiau a restrir isod.

Yma yng Ngwynedd, gallwn ailgylchu:

Papur – papur, papur newydd, cylchgronau, papur swyddfa, post sothach (junk mail), papur wedi ei dorri’n swrwd, cerdyn.

Plastig a Chaniau – caniau bwyd a diod, foil, aerosols, poteli plastig, potiau, tybiau a hambyrddau plastig – potiau iogwrt neu fenyn, potiau plastig ar gyfer ffrwythau neu lysiau a hambyrddau ar gyfer cigoedd, cartons bwyd a diod ac ati.

Gwydr – poteli a jariau gwydr.

Gwastraff bwyd – unrhyw fath o wastraff bwyd, wedi ei goginio neu yn amrwd e.e. parion ffrwythau a llysiau, caws, bara, ffa, cig, wyau, scrapion, bwyd sydd wedi pasio ei ddyddiad, bagiau te, pysgod ayyb. Ond, peidiwch â rhoi hylif fel llefrith neu olew yn y bin.

Ni allwn ailgylchu bagiau plastig ar hyn o bryd.

Yn y gegin fe welwch gadi gwastraff bwyd, bin ailgylchu (gyda thri gofod gwahanol) ac yna bin gwastraff cyffredinol.

Yn eich ystafelloedd gwely, mae eich biniau wedi eu labelu yn glir i ddynodi pa un yw’r bin gwastraff cyffredinol a pha fin yw’r un ailgylchu.

 

Dŵr Yfed

Mae cyflenwad dŵr yfed Tŷ Newydd yn gwbl ddiogel i’w yfed, ac yn flasus tu hwnt. Gall fod yn anodd rhoi gwydr neu photel o dan y tapiau dŵr yn yr ystafelloedd ymolchi, felly mae pob croeso i chi lenwi potel wydr fawr yn y gegin er mwyn mynd â hi’n nol i’ch ystafell.

 

Clustogau a Gobenydd

Os ydych yn ddigon lwcus i gael gwely dwbl neu gwely maint brenin yn eich ystafell, efallai na fyddwch chi’n defnyddio’r pedwar gobenydd. Os felly, gofynwn i chi adael unrhyw obenyddion nad sydd wedi eu defnyddio i un ochr fel bod ein tîm glanhau yn gallu eu hail-ddefnyddio ar gyfer y gwesteion nesaf, gan arbed ar ein ôl troed carbon yn yr un modd.

 

Tyweli

Rydym wedi darparu un tywel mawr ac un tywel bach i bob gwestai. Os hoffech dywel glân yn ystod eich arhosiad, rydym yn hapus iawn i roi eich tyweli yn y peiriant golchi a’u dychwelyd yn lân ddiwedd y dydd. Dewch i holi yn y swyddfa, os gwelwch yn dda.

 

Beth arall ydym ni’n ei wneud?

Rydyn ni’n ceisio bod mor gynaliadwy â phosib yn Nhŷ Newydd, gan gynnwys bod yn ymwybodol o ble rydyn ni’n prynu ein cynnyrch bwyd (blaenoriaethu cynnyrch lleol lle bo’n bosibl a defnyddio cyflenwyr lleol fel y cigydd, y deli a chyflenwr llysiau lleol). Mae ein garddwr hefyd, er enghraifft, yn gadael rhan gyfan o’r tir heb ei dorri, fel ffordd o geisio gwneud iawn am dorri’r ardd fawr y tu ôl i’r tŷ. Rydyn ni’n defnyddio papur toiled Who Gives a Crap, sy’n rhydd o blastig, a hefyd yn defnyddio cynhyrchion Faith in Nature fel pethau ymolchi. Mae rhai pethau yn anodd i’w newid e,e y defnydd o glingfilm yn y gegin. Yn anffodus, mae rheolau Iechyd a Diogelwch Bwyd yn ein hatal rhag gwneud rhai newidiadau fel hynny.

Rydym bob amser yn agored i syniadau newydd ar sut y gallwn wneud hen dŷ rhestredig – sydd erioed mor anodd ei wneud yn effeithlon o ran ynni – yn wyrddach ac yn fwy cynaliadwy. Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw awgrymiadau!

Ein Cyrsiau

Ysgrifennu Nofel: O’r dechrau i’r diwedd (cwrs digidol)
Mer 6 Tachwedd 2024 - Mer 4 Rhagfyr 2024
Tiwtoriaid / Cesca Major, Ayisha Malik
Gweld Manylion
Encil Nadolig
Llu 9 Rhagfyr 2024 - Gwe 13 Rhagfyr 2024
Tiwtor / Siôn Corn
Gweld Manylion
Dihangfa Di-Dechnoleg: Diffodd y Ffôn i Ddeffro’r Awen
Llu 10 Mawrth 2025 - Gwe 14 Mawrth 2025
Tiwtor / Siân Melangell Dafydd
Gweld Manylion