Mae Dr Sophie Buchaillard yn awdur, addysgwr a chwnselydd. Mae hi'n cynnal sesiynau hyfforddi a gweithdai i helpu i rymuso menywod. Yn gyn-aelod o fwrdd Llywodraeth Cymru Menywod Cymru mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM), cyrhaeddodd restr fer Gwobr Womenspire Chwarae Teg ar ôl cyfrannu at yr adroddiad Talented Women for a Successful Wales (Llywodraeth Cymru, 2016). Mae’n awdur dwy nofel, Assimilation (Honno, 2024) a This Is Not Who We Are (Seren, 2022), a chyrhaeddodd Sophie restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2023. Cafodd ei barddoniaeth ei rhoi ar restr fer Gwobr Farddoniaeth Bridport 2024 ac mae hi wedi ysgrifennu'n helaeth mewn casgliadau, papurau newydd a chylchgronau am sefyllfa menywod a mudwyr yng Nghymru gyfoes. Mae ganddi PhD mewn Ysgrifennu Beirniadol a Chreadigol o Brifysgol Caerdydd, lle bu'n dysgu tan 2024.
Ysgrifennu’r Menopos (Digidol)
Er gwaethaf y ffaith bod mwy o sôn am y menopos yn y cyfryngau, ychydig iawn o weithgareddau sy’n rhoi cyfle i fynd i’r afael â’r profiad ei hun, mewn awyrgylch sy’n hwyluso ymgysylltiad creadigol â’r thema.
Bydd y gyfres hon o weithdai arlein yn cynnig cyfle i unigolion sy’n profi symptomau perimenopos a menopos ddod ynghyd, rhannu ac ysgrifennu am eu profiad dros gyfnod o bedair wythnos.
Mae’r gweithdai hyn ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am weithgaredd creadigol sy’n eu galluogi i drafod, myfyrio a rhannu eu profiadau unigol o’r menopos. Y nod yw magu hyder a datblygu strategaethau i fynegi’r emosiynau a’r profiadau corfforol sy’n rhan o gylch bywyd corff, ond sydd eto’n parhau wedi ei orchuddio dan len o dawelwch, cywilydd a chamddealltwriaeth.
Bydd y gweithdai hyn yn eich grymuso i ddefnyddio ysgrifennu i fynegi eich profiad unigol mewn awyrgylch cynhwysol a chefnogol, ac i ystyried pa mor bwysig yw eich llais wrth helpu i normaleiddio sgyrsiau am y menopos yn y cartref a’r gweithle.
Noder: Mae pob amser yn GMT
Strwythur:
Wythnos 1, Dydd Mawrth 3 Mawrth
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu chi a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb ac ymgartrefu gyda’r dechnoleg.
19.00 – 20.00: Gweithdy cyntaf
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Ail weithdy
Wythnos 2, Dydd Mawrth 10 Mawrth
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu chi a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb ac ymgartrefu gyda’r dechnoleg.
19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Pedwerydd weithdy
Wythnos 3, Dydd Mawrth 17 Mawrth
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu chi a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb ac ymgartrefu gyda’r dechnoleg.
19.00 – 20.00: Pumed gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Chweched gweithdy
Wythnos 4, Dydd Mawrth 24 Mawrth
18.45 – 19.00: Mae pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu chi a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb ac ymgartrefu gyda’r dechnoleg.
19.00 – 20.00: Seithfed gweithdy
20.00 – 20.15 : Egwyl
20.15 – 21.15 : Wythfed gweithdy