Mae Tom Bullough yn awdur pedair nofel ac, yn fwyaf diweddar, Sarn Helen: a Journey Through Wales, Past, Present and Future (Granta, 2023), a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2024 a Llyfr y Flwyddyn Waterstones 2023. Bydd ei ffilm nodwedd gyntaf, Mr Burton, am fywyd cynnar yr actor Richard Burton, yn cael ei ryddhau mewn theatrau yng ngwanwyn 2025. Ar hyn o bryd, Tom yw Cydymaith Stori Castell y Gelli, a’n gyfrifol am brosiect clywedol a gweledol Tarddle/ Source, am Afon Gwy, ei hecoleg a phobl ei glannau. Fe’i magwyd ar fferm fynydd yn Sir Faesyfed ac mae bellach yn byw ym Mannau Brycheiniog gyda dau o blant, ci (collie) a physgodyn aur.
Ysgrifennu Hinsawdd
Sut ydych chi’n teimlo am fyw mewn argyfwng? Galar? Dewrder? Cariad? Ni fu erioed oes bwysicach i fod yn llenor, i fod yn dyst gonest i’r argyfwng a digalondid, o ddewrder di-hid a chariad hynafol at natur yn ei holl ffurfiau.
Bydd y cwrs yma’n archwilio sut y gellir trosglwyddo a chyfleu y byd byw i’r dudalen mewn ffordd sy’n fywiog, a gyda llinyn storïol cryf. Sut ydyn ni’n perthyn i’r byd naturiol? Gyda ffraethineb, gras, hwyl neu gynddaredd? Sut gall ysgrifennu annog darllenwyr i weithredu?
Yn benodol, bydd y cwrs yn eich dysgu sut i gydblethu sylwebaeth ar argyfwng hinsawdd yn eich gwaith a chwestiynu i ba raddau y mae’r awdur yn gyfrifol am wneud hynny o fewn eu hysgrifennu?
Dan arweiniad dau ymgyrchydd amgylcheddol, Tom Bullough a Jay Griffiths, bydd y cwrs yn ystyried sgiliau craidd ffeithiol greadigol a ffuglen, gan edrych ar strwythur naratif, golygu a phwysigrwydd cymeriad o fewn thema argyfyngau hinsawdd ac ecolegol. Sut mae creu ysgrifennu sy’n bwysig? Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut y gallai ein straeon fod yn driw i natur a natur ddynol.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 12 Mawrth 2025
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Tom Bullough
Nicola Davies
Mae Nicola Davies yn awdur dros 80 o lyfrau ffeithiol, ffuglen a barddoniaeth i blant a phobl ifanc, ac mae llawer ohonynt yn canolbwyntio ar fyd natur a’n perthynas ag ef. Hefyd yn swolegydd gyda gradd mewn Gwyddorau Naturiol o Goleg y Brenin, Caergrawnt, mae Nicola wedi astudio gwyddau, morfilod ac ystlumod yn y gwyllt ac roedd yn un o gyflwynwyr gwreiddiol rhaglen bywyd gwyllt plant y BBC, The Really Wild Show. Bu Nicola yn ddarlithydd ysgrifennu creadigol ym mhrifysgol Bath Spa am ddeng mlynedd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi mewn dros 12 o ieithoedd ac wedi ennill gwobrau ledled y byd, gan gynnwys gwobr cyflawniad oes y SLA am ei chyfraniad i lyfrau ffeithiol i blant. Cyrhaeddodd ei chasgliad barddoniaeth Choose Love rhestr fer medal Yoto Carniege yn 2024, ac enillodd ei nofel ffantasi Skrimsli (Firefly Press) sydd wedi ei gosod mewn byd lle gall anifeiliaid a phobl gyfathrebu Gategori Plant a Phobl Ifanc Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.
Darllenydd Gwadd
Laline Paull (Digidol)
Enwebwyd nofel gyntaf Laline Paull The Bees (Fourth Estate, 2015) ar gyfer y Baileys Women's Prize for Fiction 2015, a cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, Pod (Corsair, 2023) restr fer Women's Prize for Fiction 2023. Mae ei nofel The Ice (Fourth Estate, 2018) wedi’i gosod yn yr Arctig, ac er y cyfeirir yn aml at ei thair nofel fel genre ‘cli-fi’ (ffuglen hinsawdd), nid yw hwn yn derm y mae’n ei arddel ar gyfer ei gwaith ei hun. Mae hi’n Gymrawd o Goleg Hertford, Rhydychen, a gyda’r Royal Society of Literature, mae’n aelod o Bwyllgor Dethol Placiau Glas ar gyfer Historic England, ac mae’n aelod llawn â phleidlais o BAFTA. Mae ei gwaith ysgrifennu wedi ei gyfieithu i 29 o ieithoedd.