Ysgrifennu Nofel: O’r dechrau i’r diwedd (cwrs digidol)

Mer 6 Tachwedd 2024 - Mer 4 Rhagfyr 2024
Tiwtoriaid / Cesca Major & Ayisha Malik
Ffi’r Cwrs / O £175 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Saesneg

Oes gennych chi’r awydd i ganolbwyntio ar eich ‘sgwennu yr hydref hwn ond dydych chi methu ymrwymo i gwrs preswyl? Oes angen hwb o ysbrydoliaeth a chyngor ymarferol arnoch? P’un a oes gennych chi ddrafft cyntaf o nofel yn barod ac angen cefnogaeth I’w golygu, yn dechrau arni ac yn ansicr o sut i blotio a strwythuro, angen arweiniad ar sut i greu cymeriadau byw, neu angen cyngor ar sut i fachu asiant llenyddol,  mae’r cwrs digidol 5 wythnos hwn wedi’i gynllunio ar eich cyfer. 

Yn ystod y pump wythnos, byddwch yn elwa o’r amser dysgu y byddech yn ei dderbyn yn ystod ein cyrsiau preswyl arferol ond o’ch cartref clud. O dan arweiniad y tiwtoriaid clodwiw a phrofiadol, Cesca Major ac Ayisha Malik byddwch yn ymdrin â phob agwedd o ysgrifennu nofel a’r broses gyhoeddi tra hefyd yn adeiladu cymuned gefnogol o gyd-awduron. Trwy weithdai grŵp bywiog a thiwtorialau un-i-un a gynigir ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu cymeriadau â dyfnder, saernïo eich nofel, a hunan-olygu eich gwaith. Bydd y tiwtoriaid hefyd yn rhannu eu hawgrymiadau ar sut i greu gyrfa lwyddiannus o fewn y diwydiant cyhoeddi a chyflwyno gwaith i asiantau. Cyn eich sesiwn un-i-un, fe’ch gwahoddir i gyflwyno sampl o’ch nofel i’w ddarllen gan un o’ch tiwtoriaid. 

Byddwch yn gadael y cwrs gyda syniad clir o’ch camau nesaf, gyda’ch creadigrwydd wedi’i sbarduno a dealltwriaeth gref o sut i ysgrifennu nofel sy’n aros gyda’ch darllenwyr ymhell ar ôl iddynt droi’r dudalen olaf. 

Noder os gwelwch yn dda mai cwrs drwy gyfrwng y Saesneg yw hwn.  

 

Strwythur: 

Wythnos 1, Dydd Mercher 6 Tachwedd 

18.45 – 19.00: Pawb yn ymgynnull ar-lein yn ystafell Zoom y cwrs. Bydd aelod o dîm Tŷ Newydd yn eich croesawu chi a’r tiwtoriaid. Byddwch yn cael cyfle i gyflwyno eich hun, cwrdd â phawb, a dod i’r arfer gyda’r dechnoleg.  

19.00 – 20.00: Gweithdy cyntaf 

20.00 – 20.15: Egwyl  

20.15 – 21.15: Ail weithdy 

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod gan y tiwtoriaid ar gyfer y sesiwn  nesaf  

Wythnos 2, dydd Mercher 13 Tachwedd 

18.45 – 19.00: Bydd yr ystafell Zoom yn cael ei hagor cyn y sesiwn gyntaf i roi amser i chi ymgartrefu, gofyn cwestiynau a sgwrsio â’ch cyd-awduron. 

19.00 – 20.00: Trydydd gweithdy 

20.00 – 20.15: Egwyl  

20.15 – 21.15: Pedwerydd gweithdy 

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod gan y tiwtoriaid ar gyfer y sesiwn  nesaf  

 

Wythnos 3, dydd Mercher 20 Tachwedd 

18.45 – 19.00: Bydd yr ystafell Zoom yn cael ei hagor cyn y sesiwn gyntaf i roi amser i chi ymgartrefu, gofyn cwestiynau a sgwrsio â’ch cyd-awduron. 

19.00 – 20.00: Pumed gweithdy 

20.00 – 20.15: Egwyl  

20.15 – 21.15: Chweched gweithdy 

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi, ac ymarfer yn cael ei osod gan y tiwtoriaid ar gyfer y sesiwn  nesaf  

 

Wythnos 4, dydd Mercher 27 Tachwedd 

18.45 – 19.00: Bydd yr ystafell Zoom yn cael ei hagor cyn y sesiwn gyntaf i roi amser i chi ymgartrefu, gofyn cwestiynau a sgwrsio â’ch cyd-awduron. 

19.00 – 20.00: Seithfed gweithdy 

20.00 – 20.15: Egwyl  

20.15 – 21.15: Wythfed gweithdy 

21.15 – 21.30: Sylwadau i gloi a dathliad o waith pawb. Gwahoddiad gan y tiwtoriaid i gyflwyno sampl o’ch nofel cyn eich sesiwn un-i-un gydag un ohonynt. Bydd amserlen y sesiynau un-i-un  yn cael ei rhannu â’r awduron gan aelod o staff Tŷ Newydd. 

 

Wythnos 5, dydd Mercher 4 Rhagfyr 

10.00 – 3.00 Byddwch yn mynychu sesiwn un-i-un 30 munud o hyd gydag un o’ch tiwtoriaid lle byddwch yn derbyn adborth pwrpasol ar eich ysgrifennu a fydd yn eich helpu i barhau i symud eich ysgrifennu yn ei flaen a sefydlu arfer ysgrifennu cynaliadwy. 

Tiwtoriaid

Cesca Major

Mae Cesca Major yn nofelydd ac yn ysgrifennwr sgrin. Mae hi wedi ysgrifennu pedair nofel ar ddeg, dan enwau amrywiol, ac mae ei llyfrau wedi eu cyhoeddi mewn dros 12 gwlad wahanol. Mae hi wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Gomedi Rhamantaidd yr RNA, Coron Aur HWA a Gwobr Gold Dagger CWA. Ar hyn o bryd mae ganddi gynhyrchiadau teledu a ffilmiau yn cael eu datblygu gyda chwmnïau gan gynnwys Hello Sunshine, Apple, Monumental Television, 42, Roughcut, Sky Studios a'r BBC. Mae Cesca wedi cyflwyno sioeau ar gyfer ITV West a Sky Channels yn y gorffennol. Mae hi'n mwynhau cynnal neu siarad ar baneli ac yn ffilmio vlogs am y broses ysgrifennu. Mae hi’n rhedeg encilion ysgrifennu, yn fentor i’r Black Girl Writers ac wedi dysgu cyrsiau ysgrifennu creadigol i Jericho Writers ac Ysgol Gelf Henley. Mae Cesca yn byw yn Berkshire gyda'i gŵr, ei mab a'i gefeilliaid.

Ayisha Malik

Ayisha Malik yw awdur y nofelau clodwiw Sofia Khan is Not Obliged, The Other Half of Happiness, This Green and Pleasant Land a The Movement. Cafodd ei dewis ar gyfer Fresh Talent Pick gan WHSmith ac roedd Sofia Khan yn un o ddewisiadau London CityReads. Mae hi wedi cyfrannu at weithiau sy’n cynnwys A Change is Gonna Come, a hefyd Conversations in Love, a gyrhaeddodd restr goreuon gwerthiant y Sunday Times. Mae hi wedi ysgrifennu ail-gread o Mansfield Park gan Jane Austen, a hefyd y llyfr i blant Seven Sisters. Mae Ayisha wedi ennill Gwobrau Llyfrau Amrywiaeth ac wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menywod Asiaidd Llwyddiannus, Gwobrau Siapwyr y Dyfodol Marie Claire, Gwobrau Cyhoeddi ac Ysgrifennu h100, ac mae’n dderbynnydd Ysgoloriaeth Teithio Cymdeithas yr Awduron. Mae Sofia Khan is not Obliged a The Movement wedi eu hopsiynu ar gyfer y teledu. Mae Ayisha yn rhan o dîm yr Academi Ysgrifennu Proffesiynol ac yn addysgu cyrsiau ar gyfer Academi Faber a Curtis Brown Creative.  

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811