Magwyd Amy Liptrot ar fferm ddefaid yn Orkney, yr Alban. Mae wedi ysgrifennu dau gofiant poblogaidd: The Outrun (Canongate Books, 2016) a The Instant (Canongate Books, 2022). Enillodd The Outrun Wobr Wainwright a Gwobr PEN Ackerely am gofiant, ac mae bellach wedi’i gyfieithu i 14 o ieithoedd a’i addasu’n ffilm gyda Saoirse Ronan yn serennu. Mae hi'n byw yn Swydd Efrog ac yn gweithio ar lyfr am wymon.
Ysgrifennu eich Hunangofiant: Plymio i’r dyfnderoedd
Ymunwch â ni ar gwrs unigryw sy’n cyfuno ysgrifennu hunangofiant a nofio gwyllt, lle byddwch yn cael eich gwahodd i blymio’n ddwfn i mewn i’ch ysgrifennu ac i mewn i rai o ddyfroedd syfrdanol Llŷn ac Eifionydd. O dan arweiniad gofalus a chefnogol eich tiwtoriaid arobryn, Amy Liptrot a Noreen Masud, cewch gyfle i fynychu gweithdai grŵp a sesiynau adborth un-wrth-un wrth archwilio cymhlethdodau’r genre. Ganol yr wythnos, byddwch hefyd yn mynychu sesiwn holi ac ateb digidol gyda’r awdur a’r cofiannwr M. J Harrison. Dysgwch sut i drawsnewid bywyd i mewn i naratif, cyfleu ymdeimlad o le ac awyrgylch yn argyhoeddiadol, mynd i’r afael ag ystyriaethau moesegol allweddol o fewn y genre, ac ysgrifennu trwy atgofion anodd. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i brofi’r dyfroedd ysbrydoledig, iachusol ac adfywiol sydd i’w cael ar garreg drws Tŷ Newydd yn ystod dwy daith nofio grŵp dewisol.
Byddwch yn gadael y cwrs yn teimlo wedi’ch hadfywio a’n llawn ysbrydoliaeth, yn ogystal â dealltwriaeth ddyfnach o ysgrifennu cofiannau a gwerthfawrogiad newydd o natur.
Bydd yr encil hwn yn canolbwyntio ar ysgrifennu cofiannau, ond mae croeso mawr i’r rheini sy’n ysgrifennu ffuglen, barddoniaeth neu genres eraill – ac sy’n chwilio am ffyrdd i ymgorffori straeon ffeithiol neu fyd natur yn eu gwaith – i ymuno ar y cwrs hefyd.
Sylwer: Bydd tywysydd nofio dŵr agored cymwys yn bresennol yn ystod y sesiynau nofio i sicrhau diogelwch y grŵp. Os hoffech drafod yr elfen hon o’r rhaglen cyn archebu, cysylltwch ag aelod o dîm Tŷ Newydd ar tynewydd@llenyddiaethcymru.org. Gweler y Cwestiynau Cyffredin isod.
Cwestiynau Cyffredin
Oes angen profiad blaenorol arnaf i fynychu’r sesiynau nofio grŵp?
Mae elfen nofio’r cwrs yn opsiynol, a bydd pawb yn rhydd i gymryd rhan fel y mynnant. Fodd bynnag os am gymryd rhan yn y sesiynau nofio, gofynnwn i’r cyfranogwyr fod yn nofwyr hyderus sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol o nofio mewn dŵr agored. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu cymryd rhan mewn modd cyfforddus a diogel.
Pa reoliadau iechyd a diogelwch fydd ar waith yn ystod y sesiynau nofio?
Bydd hyfforddwr nofio cymwysedig yn bresennol yn ystod y ddwy sesiwn nofio i sicrhau diogelwch y grŵp.
Faint o nofio sy’n rhan o’r cwrs?
Bydd dau sesiwn nofio opsiynol wedi’u trefnu yn ystod y cwrs. Bydd y rhain yn digwydd ochr yn ochr â gweithdai ysgrifennu creadigol.
Tiwtoriaid
Amy Liptrot
Noreen Masud
Mae Noreen Masud yn Ddarlithydd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bryste, ac yn AHRC/BBC New Generation Thinker. Cyrhaeddodd ei chofiant-teithio, A Flat Place (Hamish Hamilton [Penguin] a Melville House Press, 2023), restr fer y Women’s Prize for Non-fiction, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn Ymddiriedolaeth Charlotte Aitken y Sunday Times, Gwobr Jhalak, a gwobr RSL Ondaatje.
Darllenydd Gwadd
M. John Harrison (Digidol)
Ganwyd M. John Harrison yn Swydd Warwick yn 1945 ac mae wedi ysgrifennu ffuglen ers 1966. Mae hefyd wedi trafod ffuglen yn y TLS, Guardian, Telegraph, NYT ac mewn mannau eraill dros y pum mlynedd ar hugain diwethaf, ac roedd yn feirniad ar gyfer Gwobr Booker 2022. Mae ei lyfrau blaenorol yn cynnwys Climbers (W&N, 1989), nofel lled-hunangofiannol a enillodd Wobr Boardman Tasker am Ysgrifennu Mynydd yn 1989; enillodd Nova Swing (Random House Worlds, 2006) wobr Arthur C Clarke am y nofel ffuglen-wyddonol orau yn 2007; ac enillodd The Sunken Land Begins to Rise Again (Orion Publishing Co, 2020) Wobr Goldsmiths 2020 am ffuglen arloesol. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys cyfres o ffantasïau am gathod sy'n siarad; pum casgliad o straeon byrion, gan gynnwys You Should Come With Me Now (Comma Press, 2017) a gyrhaeddodd restr hir Gwobr Edge Hill Short Story Prize 2028; a "gwrth-gofiant", Wish I Was Here, (Profile Books Ltd, 2023). Mae’n byw yn Swydd Amwythig ac yn gweithio ar ei drydedd nofel ar ddeg o dan ei enw ei hun.