Bardd, golygydd ac awdur yw Elinor Wyn Reynolds. Wedi ei geni yn y Rhondda, cafodd ei magu yng Nghaerfyrddin ac mae hi bellach wedi dychwelyd i fyw i Sir Gâr. Mae hi wedi rhoi sawl casgliad o gerddi a straeon at ei gilydd, megis Llyfr Bach Priodas (Gomer) a Llyfr Bach Nadolig (Barddas) ac yn 2019, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Gwirionedd (Gwasg y Bwthyn).
Ysgrifennu Barddoniaeth
11.00 am – 4.00 pm
Ymunwch ag Elinor Wyn Reynolds, enillydd Gwobr Farddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2023, i archwilio’r grefft o lunio cerddi llawn bywyd ac emosiwn. Wedi ei anelu at ddarpar feirdd a’r rhai sy’n dychwelyd at y grefft, nod y cwrs undydd hwn yw cynyddu hyder a gosod y seiliau ar gyfer parhau â’r grefft o farddoni ar ôl gadael.
Dyma gwrs addas i awduron newydd sbon, ac i awduron mwy profiadol fel ei gilydd.
Bydd cyngor parod gan Llenyddiaeth Cymru ar ôl y cwrs i’r rhai ohonoch fydd yn awyddus i edrych ar y llwybrau tuag at gyhoeddi.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, ac i’r rheiny sydd eisoes â pheth profiad. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os yw’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2023 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a melysion ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.