Mae Rachel Dawson yn awdur Cymraeg hoyw, dosbarth gweithiol. Yn 2020, dyfarnwyd bwrsariaeth iddi gan Llenyddiaeth Cymru, a alluogodd iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf, Neon Roses (Gwasg John Murray, 2023). Disgrifiwyd Neon Roses gan Sarah Waters fel, “stori gyda chalon fawr sy’n trafod y broses o ddod i adnabod eich hunain a gwrando ar eich calon, wedi’i osod ym Mhrydain yn y 1980au. Nofel dyner, rywiol, dyrchafol a llawn hwyl.” Ganed Rachel yn Abertawe ac mae wedi gwneud amrywiaeth o swyddi, gan gynnwys gwerthu rholiau selsig a vibrators (nid ar yr un pryd), a gwirfoddoli i AS. Mae hi bellach yn gweithio yn y trydydd sector ac yn byw gyda’i gwraig yng Nghaerdydd.
Ysgrifennu am Gariad Cwîar
Mer 7 Chwefror 2024
Tiwtor
/ Rachel Dawson
Ffi’r Cwrs
/
O
£14
y pen
Genres
/ BarddoniaethFfeithiolFfuglen
Iaith
/ Saesneg
6.00 – 7.30 pm
Yn y gweithdy aml-genre hwn, bydd yr awdur Rachel Dawson yn edrych ar wahanol dechnegau a syniadau ar gyfer ysgrifennu cariad, gan feddwl am feysydd fel deialog ac awyrgylch golygfa yn ogystal â ffyrdd o ysgrifennu am wahanol fathau o agosatrwydd. Bydd y cwrs yn cynnig gofod diogel a chefnogol i awduron newydd a phrofiadol ynghyd sy’n gweithio ar draws ffurfiau amrywiol.