Ysgrifennu a Nofio Gwyllt

Gwe 23 Awst 2024 - Sul 25 Awst 2024
Tiwtoriaid / Hanan Issa & Grug Muse
Ffi’r Cwrs / O £275 - £375 y pen
Genres / BarddoniaethFfeithiolFfuglen
Iaith / CymraegDwyieithogSaesneg

Mae pobl yn cael eu denu’n naturiol tuag at ddŵr am lawer o resymau, ac mae astudiaethau diweddar yn dangos bod agosrwydd at fannau glas yn gallu cefnogi llesiant, lleihau straen, a meithrin ymdeimlad o gysylltiad gydag eraill. Os ydych chi’n chwilio am ruthr gwyllt gan bwll o ddŵr oer; cysylltiadau agosach gyda’r byd mwy-na-dynol; ffyrdd o fod yn fwy presennol a myfyriol yn ein cyrff; neu ddealltwriaeth ddyfnach o’n diwylliant, llên gwerin, ffydd a hanes, mae gan ddŵr ffordd o wneud i ni deimlo’n well. Yn ystod y cwrs penwythnos hwn, byddwn ni’n archwilio ein perthynas gyda dŵr drwy ysgrifennu. Pa ysbrydoliaeth allwn ni ei ennyn ar ôl profiad yn nofio? A all nofio myfyriol gynyddu ein creadigrwydd? Ymunwch â Hanan Issa a Grug Muse am benwythnos o nofio ac ysgrifennu, yn nyfroedd hyfryd Llŷn ac Eifionydd. Mae croeso i bob genre a ffurf o ysgrifennu, a does dim angen profiad blaenorol o ysgrifennu.

 

Cwestiynau Cyffredin

Oes angen profiad blaenorol yn nofio arna i i fynd ar y cwrs hwn?

Oes. Mae elfen nofio’r cwrs yn hanfodol, ond bydd rhwydd hynt i bawb fynd ar eu cyflymder eu hunain. Serch hynny, rydyn ni’n gofyn bod y cyfranogwyr yn nofwyr hyderus sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol yn nofio yn y môr ac mewn afonydd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod modd i’r cyfranogwyr gymryd rhan lawn yn y cwrs penwythnos mewn modd cyfforddus a diogel.

Pa reoliadau iechyd a diogelwch fydd ar waith yn ystod y sesiynau nofio?

Bydd hyfforddwr nofio cymwys yn bresennol yn ystod y ddwy sesiwn nofio i sicrhau diogelwch y grŵp. Bydd asesiad risg manwl yn cael ei gynnal cyn y cwrs, a bydd asesiad risg ychwanegol yn digwydd ar y dydd i sicrhau bod y dyfroedd yn ddiogel i nofio ynddynt.

Faint o nofio sy’n rhan o’r cwrs?

Bydd dwy sesiwn nofio grŵp wedi’u trefnu yn ystod y cwrs, a fydd yn digwydd fore Sadwrn a Sul fwy na thebyg. Byddwn yn nofio yn yr afon ac yn y môr. Bydd hyn yn digwydd ochr yn ochr â theithiau cerdded grŵp, a, os bydd y tywydd yn caniatáu, darlleniadau a gweithdai yn yr awyr agored.

Oes angen profiad blaenorol yn ysgrifennu arna i i fynd ar y cwrs hwn?

Nac oes, does dim angen bod â phrofiad blaenorol yn ysgrifennu. Os ydych chi’n fardd neu’n awdur ffuglen, yn rhywun sy’n gobeithio cofnodi eich profiadau, neu’n dymuno ychwanegu mwy o fyfyrio a chreadigedd yn eich bywyd, yna dyma’r cwrs i chi.

Tiwtoriaid

Hanan Issa

Mae Hanan Issa yn awdur, gwneuthurwr ffilm ac artist Cymreig-Iracaidd. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys ei chasgliad o farddoniaeth My Body Can House Two Hearts a Welsh Plural: Essays on the Future of Wales (Watkins Media Limited, 2022). Cafodd ei monolog buddugol With Her Back Straight ei berfformio yn Theatr Bush fel rhan o’r Hijabi Monologues. Mae’n rhan o’r ystafell awduron ar gyfer cyfres deledu glodwiw We Are Lady Parts ar Channel 4. Mae Hanan yn gyd-sylfaenydd cyfres meic agored Where I’m Coming From. Derbyniodd gomisiwn Ffolio Ffilm Cymru / BBC Wales 2020 ar gyfer ei ffilm fer The Golden Apple. Ar hyn o bryd, hi yw Bardd Cenedlaethol Cymru a Chymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2022-2023.

 

Grug Muse

Mae Grug Muse yn fardd ac ysgrifwr o Ddyffryn Nantlle. Cyhoeddwyd ei chasgliad barddoniaeth diweddaraf – merch y llyn – gan Gyhoeddiadau’r Stamp yn 2021, ac mae eu hysgrifau wedi ymddangos mewn cylchgronau yn cynnwys Planet ac O’r Pedwar Gwynt. Mae hi hefyd yn olygydd gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, a hi yw un o gyd-olygwyr y casgliad o ysgrifau Welsh (plural), (Repeater, 2022). Mae Grug yn rhan o grŵp Sgwennu’n Well Llenyddiaeth Cymru, ac yn datblygu ei phrofiad o fod yn ymarferwr creadigol ym myd iechyd a llesiant.  

 

 

 

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811