Mae llyfrau Mike Parker yn cymryd ymdeimlad o le fel man cychwyn iddynt, ac yn cyfuno hunangofiant, hanes, hunaniaeth, gwleidyddiaeth a’r cysyniad o berthyn. Mae ei lyfrau yn cynnwys, Map Addict (HarperCollins, 2010), ei ddilyniant poblogaidd The Wild Rover (HarperCollins, 2012), y llyfr cwlt Neighbours From Hell? (Y Lolfa, 2014) a The Greasy Poll, dyddiadur gwleidyddol (Y Lolfa, 2016). Mae ef hefyd wedi ysgrifennu a chyflwyno nifer o gyfresi teledu a radio, gan gynnwys On the Map ar gyfer BBC Radio 4, ac ar gyfer ITV Wales, Coast to Coast and Great Welsh Roads. Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn gweithio ar drioleg. Mae dau lyfr wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn: On the Red Hill (Cornerstone, 2019) sy’n disgrifio’r profiad o fywyd cefn gwlad cwîar, enillodd Llyfr y Flwyddyn yn 2020, a daeth yn ail ar gyfer Gwobr Wainwright am ysgrifennu natur yn y DU. Nesaf roedd All the Wide Border (HarperCollins, 2023), archwiliad o ffin Cymru a Lloegr fel llinell ar y map, llinell trwy hanes a llinell yn ein meddyliau. Cafodd ei henwi gan Waterstones fel un o'r deg llyfr taith gorau y flwyddyn.
Ysgrifennu a Cherdded o dan olau’r Haul a’r Lloer
Ymunwch â ni am benwythnos egnïol a chreadigol sy’n cyfuno gweithdai ysgrifennu hunangofiannol, teithio a natur gyda theithiau cerdded lleol rhagorol. Dros y penwythnos, byddwch yn gadael i’r awyr agored fod yn ysbrydoliaeth i chi wrth i chi drochi eich hun yn yr amgylchedd naturiol hardd o amgylch Tŷ Newydd a’i brofi yn ystod y dydd ac yn wefreiddiol – gyda’r nos.
Yn ystod y dydd, byddwch yn mwynhau amrywiaeth o weithdai ysgrifennu grŵp a theithiau tywys dan arweiniad yr awdur llyfrau taith a chofiannau, Mike Parker sydd wedi ennill amryw o wobrau llenyddol. Byddwch yn ymhyfrydu yn y bywyd gwyllt a geir ar hyd llwybrau afon Dwyfor ac yn darganfod mannau hudol eraill yn yr ardal leol. Gyda’r nos, byddwch yn cael eich arwain gan Dani Robertson, awdur a Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri ac yn dysgu gwerthfawrogi harddwch a dirgelwch y nos.
Mae’r cwrs wedi’i lunio i’ch helpu i ddatblygu fel awdur ffeithiol-greadigol drwy eich annog i ganolbwyntio ar fanylion o’ch amgylch, creu ymdeimlad cryf o le, adeiladu disgrifiadau synhwyraidd gwreiddiol ac, yn hollbwysig, adfywio’ch creadigrwydd a chryfhau eich cysylltiad â natur. Mae’r penwythnos hwn yn berffaith i ddechreuwyr pur ac awduron mwy profiadol fel ei gilydd sy’n ceisio adeiladu eu sgiliau, eu harddull a’u hyder.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £150 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Sul 10 Awst 2025
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtor
Mike Parker
Darllenydd Gwadd
Dani Robertson
Mae Dani Robertson yn gweithio fel Swyddog Awyr Dywyll i Barc Cenedlaethol Eryri, ac yn wreiddiol o Fanceinion ond symudodd i gefn gwlad Cymru yn ifanc. Mae hi'n doreithiog mewn gwaith cadwraeth, yn hyrwyddo'r tywyllwch i bawb, ac yn siaradwr rheolaidd mewn digwyddiadau allgymorth cyhoeddus. Cydnabuwyd ei heiriolaeth dros awyr y nos gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2022, pan dderbyniodd Wobr Amddiffynnwr Awyr Dywyll. All Through the Night yw ei llyfr cyntaf ac fe’i cyhoeddwyd gan HarperCollins yn 2023.