Mae Joelle Taylor yn awdur pedwar casgliad o farddoniaeth. Enillodd ei chasgliad diweddaraf C+NTO & Othered Poems Wobr T.S. Eliot 2021, a Gwobr Llyfr Polari 2022 ar gyfer awduron LHDT. Mae C+NTO yn cael ei addasu ar gyfer theatr ar hyn o bryd gyda'r bwriad o fynd ar daith. Mae hi'n gyd-guradur ac yn cyflwyno Out-Spoken Live yng Nghanolfan y Southbank ac mae'n mynd â'i gwaith ar daith yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn ystod amrywiol o leoliadau, o Awstralia i Brasil. Mae hi hefyd yn Gymrawd Barddoniaeth Prifysgol East Anglia ac yn guradur Gwobrau Koestler 2023. Mae hi wedi beirniadu nifer o wobrau barddoniaeth a llenyddol gan gynnwys Cymrodoriaeth Jerwood, y Forward Prize, a Gwobr Ondaatje. Cyhoeddwyd ei nofel o straeon rhyng-gysylltiol The Night Alphabet gan Riverrun yng ngwanwyn 2024 a chafodd ei henwi yn Guardian Book of the Month. Mae hi’n Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol, ac yn Artist Gair Llafar y Flwyddyn Saboteur 2022. Yn ddiweddar cafodd ei hanrhydeddu â Gwobr Rhagoriaeth DIVA a chafodd ei chynnwys hefyd ar restr Pride Power 2024 The Independent.
Perfformio Barddoniaeth
Bydd y cwrs penwythnos dwys yma’n archwilio ystod gynhwysfawr o dechnegau a ddefnyddir i greu barddoniaeth i’w pherfformio. Byddwn yn canolbwyntio ar sut i ysgrifennu’n benodol er mwyn perfformio’r darn, y grefft o ymgorffori’r gerdd, hanes perfformio barddoniaeth, creu iaith weledol, sut i ddatblygu naratif, y ffurfiau gwahanol o berfformio barddoniaeth, a llawer mwy. Dan arweiniad y bardd a’r awdur Joelle Taylor sydd wedi ennill Gwobr T.S. Eliot, mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a beirdd mwy profiadol.
Tiwtor
Joelle Taylor
Darllenydd Gwadd
Hannah Lavery (Digidol)
Bardd a dramodydd o Gaeredin yw Hannah Lavery. Enwebwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Blood Salt Spring (Polygon, 2022) ar gyfer Gwobr Saltire yn 2022, cyhoeddwyd ei hail gasgliad Unwritten Woman gan Polygon ym mis Awst 2024. Hannah yw cyn Makar (bardd llawryfog) Dinas Caeredin, hi yw cyd-gyflwynydd y podlediad celfyddydau ffeministaidd QuineCast ac roedd hi hefyd yn Artist Cyswllt yn National Theatre Scotland (NTS) gyda’i dramâu ar gyfer NTS The Drift, Lament for Sheku Bayoh, a The Protest wedi teithio’n helaeth. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer ystod eang o gwmnïau theatr, darlledwyr a chyhoeddiadau gan gynnwys BBC Radio 4 a The Guardian. Mae Hannah yn byw, yn anadlu ac yn breuddwydio ar draethau a chlogwyni Arfordir Dwyrain yr Alban, gyda’i breuddwydion yn aml yn mynd â hi yn ôl i strydoedd a chaeau Caeredin.