Bardd a pherfformiwr dwyieithog yw clare e. potter. Ymysg y gwobrau y mae wedi eu casglu y mae dwy Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru, Gwobr John Tripp ar gyfer Perfformio Barddoniaeth, a gwobr Jim Criddle am ddathlu’r iaith Gymraeg. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, ac wedi perfformio yng Ngŵyl Smithsonian Folk-Life Festival yr UDA. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd. Mae hi bellach yn canolbwyntio ar lesiant a dysgu drwy natur, a derbyniodd sawl cyfnod preswyl a chomisiwn i greu gwaith ar y themâu hyn. Diolch i nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, mae clare yn dysgu sut i ymarfer therapi barddoniaeth. Yn gynnar yn 2023, bydd clare yn cyflwyno dwy raglen ar radio BBC am farddoniaeth. Ysgrifennwyd ei hail gasgliad gyda diolch i Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru a grant gan y Society of Authors, a caiff y casgliad hwn ei gyhoeddi yn 2024.
Penwythnos Ysgrifennu a Llesiant
Sut gall ysgrifennu a chreadigrwydd gefnogi ein hiechyd a’n llesiant? Sut gall iaith a geiriau ein helpu i archwilio ein teimladau, nodi ein pryderon, a deall ein lle yn y byd yn well? Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu dadansoddi yn ystod y cwrs penwythnos adfywiol ac addysgiadol hwn, ble’ch gwahoddir i ymateb i ddarnau creadigol amrywiol sy’n pontio barddoniaeth a byd y theatr. Ochr yn ochr ag ehangu eich cyd-destun llenyddol, byddwch yn derbyn annogaeth i ysgrifennu ar eich pen eich hun gyda’r nod o gysylltu â chi’ch hun ac eraill. Bydd y tiwtoriaid, yr awduron profiadol a’r hwyluswyr clare e. potter ac Iola Ynyr hefyd wrth law i rannu arferion da a chyngor o ran dylunio a chyflwyno gweithdai ysgrifennu creadigol at ddibenion iechyd a llesiant mewn lleoliadau cymunedol amrywiol.
Bydd y tiwtoriaid yn meithrin gofod cefnogol, diogel a chynhwysol lle byddwch yn cael eich annog i fynegi eich hun yn greadigol wrth i chi ffurfio rhwydwaith newydd o awduron ac ymarferwyr o’r un anian. Bydd amser hefyd i archwilio awyrgylch a chynefinoedd hardd a thawel Tŷ Newydd i helpu i ddyfnhau eich cysylltiad â natur a dod o hyd i ymdeimlad o heddwch.
Mae’r cwrs yn croesawu awduron newydd sbon yn ogystal ag awduron profiadol. Mae’r cwrs hefyd yn addas ar gyfer hwyluswyr sydd â diddordeb mewn rhannu eu gwybodaeth gydag eraill, er enghraiff hwyluswyr grwpiau ysgrifennu creadigol.
Cwrs dwyieithog fydd hwn, a bydd y tiwtoriaid wrth law i gefnogi cyfranogwyr sy’n gweithio drwy’r Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.
Tiwtoriaid
clare e. potter
Iola Ynyr
Yn Mehefin 2024, cyhoeddodd Iola Ynyr gofiant creadigol gyda'r Lolfa, Camu. Cyfrannodd at gyfrol Un yn Ormod, profiadau unigolion a'u perthynas ag alcohol, a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn 2021. Cyhoeddodd erthygl yn Rhifyn 6: Pontydd, Codi Pais 2020. Cyhoeddodd ddrama Anne Frank gan Gomer yn 2013. Cyhoeddwyd y ddrama, C'laen yn y gyfrol Nid ar chwarae bach gan Cyngor Celfyddydau Cymru fel cyfres o wyth drama theatr mewn addysg yn 2005.