Golygu a Chyflwyno eich cerddi gyda Golygyddion Seren

Llu 28 Gorffennaf 2025 - Gwe 1 Awst 2025
Tiwtoriaid / Zoë Brigley & Rhian Edwards
Darllenydd Gwadd / Bethany Handley (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £ y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Saesneg

Ymunwch â ni am wythnos adeiladol, addysgiadol ac ysgogol o ysgrifennu a golygu barddoniaeth gyda’r beirdd arobryn a chyd-olygyddion barddoniaeth y wasg Seren Books, Zoë Brigley a Rhian Edwards.

Mae golygu a chyflwyno cerddi yn arferiad nid yn unig ar gyfer beirdd newydd, ond i awduron profiadol sydd ar ganol eu gyrfa hefyd. Mae gan olygyddion barddoniaeth Seren, Zoë a Rhian, brofiad helaeth o weithio gyda beirdd ar bob cam o’u gyrfaoedd, felly p’un ai’ch bod chi’n gobeithio cyhoeddi’ch casgliad cyntaf neu’n gweithio ar yr ail (neu’r trydydd) llyfr barddoniaeth, fe gewch gefnogaeth a chyngor amhrisiadwy ar y cwrs hwn.

Yn ystod yr wythnos, bydd Zoë a Rhian yn cynnal gweithdai grŵp ar olygu cerddi rydych chi eisoes wedi’u hysgrifennu, gan gynnig cyngor hefyd ar ddulliau golygu. Bydd yna gyfle iddynt eich helpu i guradu eich barddoniaeth yn gasgliadau a phamffledi, a byddant wrth law i gynnig awgrymiadau a chyngor ar y ffordd orau o gyflwyno eich gwaith i gylchgronau a chyhoeddwyr i’w hystyried. Bydd tiwtorial un-i-un gyda Zoë a Rhian yn cael ei gynnig i bob mynychwr a byddwch yn cael eich gwahodd i anfon sampl o’ch cerddi at y golygyddion cyn y cwrs er mwyn derbyn adborth arnynt.

Tiwtoriaid

Zoë Brigley

Bardd Americanaidd-Gymreig yw Zoë Brigley sydd yn gweithio fel Darlithydd Cynorthwyol ym Mhrifysgol Talaith Ohio. Mae’n awdur nodedig sydd wedi derbyn Gwobr Eric Gregory ar gyfer y beirdd Prydeinig gorau dan 30, ac fe gyrhaeddodd restr hir Gwobr Dylan Thomas. Hi yw Golygydd cylchgrawn Poetry Wales a Golygydd Barddoniaeth gwasg Seren, ar y cyd â Rhian Edwards. Mae ganddi dair cyfrol farddoniaeth, sydd wedi eu hargymhell gan y Poetry Book Society: The Secret (2007), Conquest (2012), a Hand & Skull (2019) oll wedi eu cyhoeddi gan Bloodaxe. Ymysg ei chyfrolau byrion eraill y mae Aubade After a French Movie (Broken Sleep Books, 2020), Into Eros (Verve, 2021) ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol o ysgrifau, Notes from a Swing State: Writing from Wales and America, gan Parthian yn 2019. Yn 2021, fe gyd-olygodd y flodeugerdd 100 Poems to Save the Earth (Seren, 2021) gyda Kristian Evans, a hi hefyd yw golygydd cylchgrawn Modron, sy’n ysgrifennu am yr argyfwng ecolegol. 

 

Rhian Edwards

Mae Rhian Edwards yn awdur a golygydd barddoniaeth gyda gwasg Seren, ac mae hi wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith. Enillodd ei chasgliad cyntaf Clueless Dogs (Seren, 2012) Wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2013 ac fe gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Forward am y Casgliad Cyntaf Gorau 2012. Enillodd Rhian Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar hefyd, gan ennill gwobr y Beirniaid a’r Gynulleidfa. Roedd ail gasgliad Rhian, The Estate Agent’s Daughter (Seren, 2020), yn Argymhelliad Darllen ar gyfer Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol 2020. Mae ei cherddi wedi ymddangos yn y Guardian, Times Literary Supplement, Poetry Review, New Statesman, Spectator, Poetry London, Poetry Wales, Arete, London Magazine, Stand a Planet. 

 

Darllenydd Gwadd

Bethany Handley (Digidol)

Mae Bethany Handley yn awdur, bardd ac actifydd anabledd sydd wedi ennill gwobrau. Mae hi’n ymgyrchu dros hawliau pobl anabl ac am well mynediad i fyd natur i bawb, yn enwedig i bobl anabl. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi gan POETRY, Poetry Wales a Country Living, a’i gynnwys gan y Poetry Foundation, BBC Radio 4 a BBC Wales, ymhlith eraill. Roedd Bethany yn un o’r awduron ar raglen Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2023-24, cyrhaeddodd rownd derfynol Primers Nine Arches Press, a dyfarnwyd Gwobr Aur Creative Future iddi am Ysgrifennu Ffeithiol Greadigol yn 2023.

Mae Bethany yn Llysgennad ar gyfer ymgyrch Mynediad i Bawb Country Living, Cerddwyr Cymru a Llwybr Arfordir Cymru. Mae hi’n cyd-olygu’r flodeugerdd ddwyieithog gyntaf o awduron Byddar ac Anabl Cymreig a fydd yn cael ei chyhoeddi gan Lucent Dreaming ym mis Ionawr 2025 a bydd ei phamffled barddoniaeth gyntaf yn cael ei chyhoeddi gan Seren ym mis Chwefror 2025. Mae Bethany ar hyn o bryd yn gweithio ar ei llyfr ffeithiol cyntaf ar fynediad i natur.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811