Ail ymunodd Cathryn Summerhayes ag asiantaeth Curtis Brown ym Medi 2016, a hithau wedi cychwyn ei gyrfa fel asiant llenyddol yn wreiddiol yn 2004. Sefydlodd restr amrywiol o gleientiaid i asiantaeth WME lle bu’n gweithio am ddegawd. Cyn hynny bu’n gweithio i sawl asiantaeth llenyddol arall a gyda chwmni Colman Getty PR – lle bu’n gweithio ar sawl digwyddiad llenyddol mawr gan gynnwys Gwobr y Man Booker. Yn 2019 cafodd ei henwo yn Asiant y Flwyddyn yn y British Book Awards. Ymysg ei chleientiaid y mae Adam Kay, Lucy Foley, Chris Whitaker, Anita Rani, Shappi Khorsandi, Ashley ‘Dotty’ Charles, Nicky Campbell, Mark Watson, Naomi Wood, Kirsty Logan, Susan Fletcher, Johanna Basford, Grace Dent, Sir Ranulph Fiennes, Deliciously Ella a Konnie Huq.
Geiriau o Gyngor gan Asiant Llenyddol: Drafftio, golygu, cyflwyno
Mae’r wythnos hon wedi’i chynllunio’n ofalus i sicrhau eich bod chi’n derbyn y cyfuniad perffaith o ysbrydoliaeth greadigol a chymhelliant proffesiynol. Ydych chi’n chwilio am gynrychiolaeth llenyddol? Gyda dyddiad cyflwyno sy’n prysur agosáu? Neu angen cefnogaeth olygyddol? Dyma’r encil perffaith i chi gyrraedd eich nod personol.
Dan arweiniad asiant llenyddol profiadol a chlodwiw, Cathryn Summerhayes (Curtis Brown), cewch gyfle i fynychu gweithdai grŵp bywiog ac addysgiadol, sesiynau tiwtora un-wrth-un, yn ogystal ag adeiladu eich cymuned o ffrindiau llenyddol. Bydd y sesiynau’n canolbwyntio ‘n bennaf ar hunan-olygu eich gwaith, datblygiad proffesiynol, awgrymiadau ar sut i ennyn diddordeb asiant, egluro’r broses gyhoeddi a mwy. Bydd eich asiant preswyl hefyd yn eich gwahodd i anfon pecyn cyflwyno (sampl hyd at 2,000 o eiriau o’ch gwaith creadigol, crynodeb, a llythyr cyflwyno i asiant) ymlaen llaw er mwyn derbyn adborth personol a phenodol ar eich gwaith.
Mae ein encilion, sydd wedi eu harlwyo yn llawn, hefyd yn rhoi amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yn amgylchedd godidog gogledd-orllewin Cymru, cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper neu gael hoe ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 28 Chwefror 2025
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtor
Cathryn Summerhayes
Darllenydd Gwadd
Anthony Shapland (Digidol)
Magwyd Anthony Shapland yng Nghwm Rhymni. Mae’n gyd-sylfaenydd g39, Caerdydd, lle mae’n gweithio. Roedd yn rhan o Garfan Cynrychioli Cymru 2022-23 Llenyddiaeth Cymru lle gafodd ei fentora gan Cynan Jones. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Rhys Davies am Foolscap sy’n rhan o’r flodeugerdd Cree, a gyhoeddwyd gan Parthian (2022). Comisiynwyd ei draethawd ffeithiol creadigol, Meantime, gan Inclusive Journalism ar gyfer blodeugerdd Seren, Cymru & I (2023) ac yn ddiweddar cyfrannodd at flodeugerdd (un)common a gyhoeddwyd gan Lucent Dreaming (2024). Cafodd ei ddewis ar gyfer rhaglen Hay Writers at Work yn 2023. Bydd ei ffuglen, Feathertongue, yn cael ei darlledu fel rhan o gyfres Short Works ar BBC Radio Four yn hydref 2024. Mae'n cael ei gynrychioli gan Cathryn Summerhayes, Curtis Brown, a bydd Granta yn cyhoeddi ei nofel gyntaf, A Room Above a Shop, yng ngwanwyn 2025.