Mae Ingrid Persaud yn awdur dwy nofel, Love After Love (Faber & Faber, 2021) a The Lost Love Songs of Boysie Singh (Faber & Faber, 2024). Enillodd ei nofel gyntaf, Love After Love, wobr Nofel Gyntaf Costa, Author’s Club First Book Award a’r Indie Book Award yn y categori ffuglen. Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Genedlaethol Stori Fer y BBC a Gwobr y Gymanwlad am y stori fer orau. Cafodd ei geni yn Trinidad ac mae'n byw yn Llundain.
Encil Ysgrifennu Nofel: Atgyfodi’r awen
Bydd yr encil ysgrifennu nofel hwn, dan arweiniad yr awdur arobryn Ingrid Persaud, yn rhoi’r amser a’r gofod i chi ganolbwyntio ar eich ysgrifennu, i ffwrdd o bethau sy’n tynnu eich sylw o ddydd i ddydd. P’un a oes gennych ddrafft cyntaf o nofel yn barod ac angen cymorth gyda golygu, yn dechrau arni ac yn ansicr sut i blotio’ch camau nesaf neu angen arweiniad ar sut i ddod â’ch cymeriadau’n fyw, bydd yr encil hwn yn cynnig yr ysbrydoliaeth a’r cyngor ymarferol sydd eu hangen arnoch.
Mae ein encilion, sydd wedi eu harlwyo yn llawn, hefyd yn rhoi amser a gofod i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Wedi’i leoli mewn lleoliad heddychlon yn amgylchedd godidog gogledd-orllewin Cymru, cewch eich ysbrydoli gan y golygfeydd godidog o’r môr dros Fae Ceredigion, rhannu syniadau dros swper neu eistedd yn ôl ac ymlacio yn llyfrgell glyd Tŷ Newydd.
Tiwtor
Ingrid Persaud
Darllenydd Gwadd
Neel Mukherjee (Digidol)
Neel Mukherjee yw awdur dwy nofel, A Life Apart (Little Brown, 2010), a enillodd wobr y Writer’s Guild of Great Britain am y ffuglen gorau, a The Lives of Others (Vintage Publishing, 2014), a gyrhaeddodd restr fer Gwobr y Booker, Gwobr Nofel Orau Costa, ac a enillodd Wobr Encore am yr ail nofel orau.