Enillodd casgliad cyntaf o farddoniaeth Kim Moore, The Art of Falling (Seren, 2015) Wobr er cof am Geoffrey Faber yn 2016. Cyrhaeddodd ei cherdd In That Year restr fer Gwobr Forward ar gyfer Cerddi Unigol Gorau yn 2015. Enillodd Wobr Awduron Northern yn 2014, Gwobr Eric Gregory yn 2011, a Gwobr Geoffrey Dearmer yn 2010. Enillodd Gystadleuaeth Poetry Business gyda ei phamffledd If We Could Speak Like Wolves yn 2012, ac roedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Michael Marks yn The Independent fel Llyfr y Flwyddyn. Mae hi ar ganol ei PhD ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion ac yn gweithio ar ei hail gasgliad o gerddi. Mae hi'n un o feirniaid Gwobr Forward for Poetry yn 2020 ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Gŵyl Farddoniaeth Kendal.
Encil yr Haf (gyda thiwtor)
Bydd encilion wedi’u harlwyo’n llawn yng Nghanolfan Tŷ Newydd yn rhoi amser a lle i chi ysgrifennu, darllen ac ymlacio. Rydyn ni wedi’n lleoli mewn man heddychlon yn ardal odidog y gogledd orllewin, lle gallwch adael i olygfeydd syfrdanol dros Fae Ceredigion eich ysbrydoli, rhannu syniadau dros swper, neu swatio ac ymlacio yn llyfrgell glud Tŷ Newydd.
Yr awdur a’r bardd clodwiw Helen Mort fydd eich tiwtor preswyl yn ystod yr encil haf hwn. Yn ystod yr wythnos, bydd Helen yn cynnal gweithdai grŵp a thiwtorialau 30 munud un-i-un dewisol. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i anfon sampl o waith ysgrifennu creadigol ymlaen llaw.
Mae’r encil hwn wedi’i gynllunio ar gyfer awduron newydd a sefydledig o unrhyw genre sy’n dymuno neilltuo amser penodol i ysgrifennu mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol.
Ar ein hencilion, bydd gan bawb ystafell eu hunain, a bydd eich prydau cartref yn cael eu paratoi gan ein cogydd preswyl profiadol. Rydyn ni’n cynnig ystod o ystafelloedd gyda hygyrchedd a phrisiau amrywiol. Holwch am ragor o wybodaeth am ystafelloedd unigol cyn archebu. Bydd gwesteion yn cael eu gwahodd i gyrraedd ar ôl cinio ddydd Llun, a gadael yn fuan wedi brecwast ddydd Gwener.
Tiwtor
Kim Moore
Darllenydd Gwadd
Horatio Clare
Enillodd llyfr cyntaf Horatio Clare, Running for the Hills (John Murray, 2006), sy’n ddisgrifiad arbennig o blentyndod yng Nghymru, Wobr Somerset Maugham. Cyrhaeddodd y llyfr restr hir Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian, ac yn sgil y llyfr cafodd Horatio ei ddewis i fod ar restr fer Awdur Ifanc y Flwyddyn gan y Sunday Times. Mae ei lyfrau ers hynny yn cynnwys A Single Swallow (Chatto & Windus, 2009) a gyrhaeddodd restr fer Llyfr Teithio’r Flwyddyn Dolman; y cofnod teithio poblogaidd, Down to the Sea in Ships (Vintage, 2015) a enillodd Llyfr Teithio’r Flwyddyn Dolman ac Icebreaker: A Voyage Far North (Chatto & Windus, 2017). Ei gyfrolau mwyaf diweddar yw Something of His Art: Walking to Lubeck with JS Bach (Little Toller Books, 2018), a The Light in the Dark: A Winter Journal (Elliott & Thompson, 2018). Mae traethodau ac adolygiadau Horatio yn ymddangos yn gyson yn y wasg ac ar sianeli radio’r BBC. Mae’n darlithio mewn ysgrifennu ffeithiol-greadigol ym Mhrifysgol Manceinion.