Mae Laura Karadog yn ymarfer yoga ers ei harddegau ac yn dysgu ers 2005, ac mae ar hyn o bryd yn hyfforddi athrawon yoga newydd drwy’r Gymraeg – y cwrs cyntaf o’i fath. Mae Laura yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol a byd-eang ac mae hi'n gweld yoga fel ffordd o fyw all gyfrannu at greu byd mwy heddychlon a thosturiol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Laura ei llyfra cyntaf am yoga. Mae Rhuddin (Cyhoeddiadau Barddas, 2021), yn cynnwys ysgrifau ac ymarferion wedi eu hysgrifennu gan Laura, ynghyd â cherddi wedi eu comisiynu yn arbennig i’r llyfr gan rai o hoff feirdd Cymru, a darluniadau prydferth gan yr artist Luned Aaron. www.laurakaradog.cymru
Encil Yoga ac Ysgrifennu: Y Llais yn y llonyddwch
Oes gennych chi ddyddiad cau’n nesáu, neu falle eich bod chi’n awyddus i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd am gyfnod? Ymunwch am encil fydd yn cyfuno dau ymarfer creadigol: yoga ac ysgrifennu creadigol. Mewn gofod diogel a chefnogol, byddwn yn derbyn yr amser a’r llonyddwch i fynd ar daith fewnol i ddatgelu’r llais creadigol sydd y tu mewn i bob un ohonon ni.
Mae ein hencilion yn darparu amser a gofod i chi ysgrifennu, ymarfer yoga, darllen ac ymlacio – a bydd eich prydau bwyd oll yn cael eu darparu gan ein cogydd preswyl profiadol. Wedi ei leoli mewn man heddychlon yng nghefn gwlad ar gyrion Llanystumdwy, cewch ysbrydoliaeth o’r olygfa odidog o’r ardd o Fae Ceredigion, mwynhau prydau bwyd gyda’ch cyd breswylwyr, neu eistedd ag ymlacio yn ein llyfrgell glyd.
Efallai eich bod yn ymarfer yoga yn gyson, ond heb droi eich llaw at ysgrifennu creadigol o’r blaen. Neu efallai eich bod yn awdur eisoes, a heb roi tro ar yoga yn flaenorol. Bydd y cwrs yma yn addas i ddechreuwyr llwyr yn y ddwy grefft, a bydd y tiwtoriaid yn dangos sut all y naill ymarfer a’r llall effeithio yn gadarnhaol ar lif eich creadigrwydd a’ch llesiant corfforol a meddyliol.
Yn ystod yr encil hwn, bydd Laura Karadog, sy’n athrawes yoga broffesiynol, yn y ganolfan drwy’r wythnos i gynnal sesiynau yoga yn gynnar yn y bore (7.30 am – 9.00 am) er mwyn deffro’r corff a’r meddwl. Bydd y yoga’n addas i bawb ac yn cyd-fynd ag anghenion pob unigolyn. Ar ôl brecwast (10.00 am – 12.00 pm), bydd yr awdur, Bethan Marlow yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol er mwyn ysgogi syniadau newydd a rhoi ffresni i’r gwaith sydd gennych ar y gweill.
Bydd cyfle i bob cyfranogwr archebu sesiwn unigol gyda’r ddau diwtor: i edrych yn fanylach ar eich perthynas gyda yoga yng nghwmni Laura; ac i drafod eich gwaith ysgrifennu a’ch datblygiad gyrfaol fel awdur gyda Bethan.
Bydd ambell ddigwyddiad mwy anffurfiol yn y prynhawn a fin nos hefyd yn cael eu cynnal, i ddod â’r grŵp at ei gilydd i fynd am dro, i sgwrsio ac i drafod yoga ac ysgrifennu.
Mae’r holl sesiynau yn ddewisol; dewch â mat yoga gyda chi neu holwch ni o flaen llaw am fatiau sbâr
Tiwtoriaid
Laura Karadog
Bethan Marlow
Mae Bethan Marlow yn awdur sy’n enwog am greu bydoedd dychmygol sy’n denu sylw at leisiau a phrofiadau pobl o gig a gwaed. Mae’n adnabyddus yn y byd theatr am gynrychioli lleisiau Cymraeg sy'n bodoli ar ymylon ein cymunedau – hi yw awdur y dramâu gair-am-air Sgint a Nyrsys. Mae hi hefyd yn sgwennu ar gyfer teledu a ffilm ac yn cynnal nifer o weithdai i bobol ifanc, pobl ddosbarth gweithiol ac i awduron LHDTC+ ledled Cymru. www.bethanmarlow.com