Encil dan ofal Mentor: Torri tir newydd gyda eich ffuglen fer

Llu 7 Gorffennaf 2025 - Gwe 11 Gorffennaf 2025
Tiwtor / Cynan Jones
Darllenwyr Gwadd / Megan Barker (Digidol) & Lucy Luck (Digidol)
Ffi’r Cwrs / O £550 - £650 y pen
Genres / FfuglenStraeon Byrion
Iaith / Saesneg

Ydych chi’n chwilio am gyfeiriad neu posibiliadau newydd gyda’ch ffuglen fer? Neu a ydych chi eisiau mireinio’ch testun a thyfu’n fwy beiddgar yn eich ysgrifennu? Mae’r encil hwn dan ofal mentor yn gyfle unigryw i dreulio amser yn canolbwyntio ar eich ffuglen gyda chymorth ysbrydoledig ac ymarferol (trwy gydol yr wythnos) wedi’i deilwra i’ch anghenion unigol gan yr awdur a’r mentor profiadol, Cynan Jones.

Cyn y cwrs, fe’ch gwahoddir i gyflwyno hyd at 5,000 o eiriau a gaiff eu darllen gan eich mentor preswyl. Yn ystod yr wythnos, byddwch yn elwa o ddau diwtorial un-wrth-un 30 munud o hyd i drafod eich darn a gyflwynwyd ac unrhyw gwestiynau allweddol sydd gennych. Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i fynychu gweithdai grŵp byr, dwys i drafod y broses, strwythur ac elfennau hanfodol eraill o ffuglen fer. Byddwch hefyd yn cael cyfle i wrando ar ddarlleniad a sesiwn holi ac ateb gyda Cynan a noson yng nghwmni’r darllenydd gwadd, Megan Barker, sy’n adnabyddus am ei gwreiddioldeb ac am ysgrifennu’n groes i’r graen. Yn olaf, trefnir mynediad arbennig at asiant llenyddol clodwiw, Lucy Luck (Asiantaeth C&W) trwy sesiwn holi ac ateb digidol lle gallwch ofyn eich holl gwestiynau sy’n ymwneud â’r diwydiant.

Oddeutu mis ar ôl y cwrs, cewch gyfle i ailgyflwyno gwaith i Cynan a chyfarfod eto am diwtorial ar-lein i drafod eich cynnydd, y camau nesaf, ac i’ch helpu i barhau i adeiladu llwybr creadigol a phroffesiynol cynaliadwy.

Tiwtor

Cynan Jones

Mae Cynan Jones yn awdur ffuglen o fri o arfordir gorllewinol Cymru. Mae ei waith wedi ymddangos mewn dros ugain o wledydd, ac mewn cyfnodolion a chylchgronau gan gynnwys Granta a The New Yorker. Mae hefyd wedi ysgrifennu sgript ar gyfer y ddrama drosedd boblogaidd Y Gwyll / Hinterland, casgliad o chwedlau i blant, a nifer o straeon ar gyfer BBC Radio. Mae wedi cyrraedd y rhestr hir a’r rhestr fer ar gyfer nifer o wobrau, ac enillodd, ymhlith gwobrau eraill, Wobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Jerwood Fiction Uncovered, a Gwobr Stori Fer Genedlaethol y BBC. www.cynanjones.com/ 

 

Darllenwyr Gwadd

Megan Barker (Digidol)

Mae Megan Barker yn awdur o Gymru sydd â chefndir mewn theatr a pherfformio. Mae ei dramâu wedi cael eu cynhyrchu mewn theatrau ar draws y DU a thu hwnt. Hi yw cyd-sylfaenydd Feral Productions, sy’n arbenigo mewn gwaith sydd yn ymateb i leoliadau gan ddefnyddio testun, cerddoriaeth a sain. Mae hi ar hyn o bryd yn cyd-weithio gyda’r cyfansoddwr a’r offerynnwr Richard Reed Parry ar brosiect ffilm a cherddoriaeth, Quiet River of Dust. Cyhoeddwyd KIT (Cheerio Publishing,) ei nofel gyntaf yn 2023.

Lucy Luck (Digidol)

Mae Lucy Luck yn asiant ffuglen lenyddol a ffeithiol gyda C&W Agency. Ymunodd yn 2016 ar ôl gweithio cyn hynny yn Aitken Alexander Associates, Lucy Luck Associates (a sefydlodd ei hun yn 2006) a Rogers, Coleridge & White. Mae hi'n cynrychioli rhestr o awduron sydd wedi ennill gwobrau gan gynnwys Douglas Stuart, Catherine O'Flynn, Rowan Hisayo Buchanan, Colin Barrett, Kevin Barry, Sara Baume, Eley Williams, Colin Walsh, Sara Taylor, Roddy Doyle, Wendy Erskine, Zoe Gilbert, Sheena Patel ac Andrew Michael Hurley.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811