Bardd a pherfformiwr dwyieithog yw clare e. potter. Ymysg y gwobrau y mae wedi eu casglu y mae dwy Ysgoloriaeth Awdur gan Llenyddiaeth Cymru, Gwobr John Tripp ar gyfer Perfformio Barddoniaeth, a gwobr Jim Criddle am ddathlu’r iaith Gymraeg. Mae clare wedi cyfieithu gwaith Bardd Cenedlaethol Cymru, wedi bod yn un o Awduron wrth eu Gwaith Gŵyl y Gelli, ac wedi perfformio yng Ngŵyl Smithsonian Folk-Life Festival yr UDA. Bu’n byw yn New Orleans am ddegawd. Mae hi bellach yn canolbwyntio ar lesiant a dysgu drwy natur, a derbyniodd sawl cyfnod preswyl a chomisiwn i greu gwaith ar y themâu hyn. Diolch i nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, mae clare yn dysgu sut i ymarfer therapi barddoniaeth. Yn gynnar yn 2023, bydd clare yn cyflwyno dwy raglen ar radio BBC am farddoniaeth. Ysgrifennwyd ei hail gasgliad gyda diolch i Ysgoloriaeth Llenyddiaeth Cymru a grant gan y Society of Authors, a caiff y casgliad hwn ei gyhoeddi yn 2024.
Dihuno’r Dychymyg: Pwysigrwydd Barddoniaeth ac Ysgrifennu er Lles
Sut all ysgrifennu a darllen fod o gymorth i’n hiechyd a’n llesiant? Gall barddoniaeth a geiriau ein helpu i archwilio ein teimladau, ac esbonio’r hyn sydd ar ein meddyliau.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn mynd ar daith bersonol wrth ddarllen ac ymateb i farddoniaeth, i ddarganfod eich hunan, i adfer ac er mwynhad hefyd. Drwy ymarfer ysgrifennu at ddibenion therapiwtig, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r broses yn eich amser eich hun i ailgynnau eich creadigrwydd. Bydd y tiwtoriaid yn cynnig gofod cefnogol, diogel a chreadigol lle gallwch archwilio eich profiadau personol a dod o hyd i’r hyn sy’n gyffredin ym mhrofiadau’r grŵp a’r gymdeithas yn ehangach.
Bydd cyfle hefyd i dreulio amser yn cerdded ac yn ysgrifennu yn amgylchedd hyfryd Tŷ Newydd a’r ardal fel ffordd i ddyfnhau eich cysylltiad â natur – gan gynnwys eich natur bersonol eich hun – ac i gefnogi eich creadigrwydd a’ch lles. Bydd clare a Jill yn darparu deunyddiau, er bod croeso i chithau ddod â hoff gerdd neu wrthrych arwyddocaol gyda chi i sbarduno eich gwaith.
Mae croeso ar y cwrs i awduron proffesiynol a rhai heb unrhyw brofiad blaenorol o farddoniaeth nac ysgrifennu creadigol. Mae’r cwrs hwn hefyd yn addas i ymarferwyr sydd â diddordeb defnyddio eu dysg i helpu eraill, er enghraifft wrth arwain grwpiau ysgrifennu creadigol yn eich cymuned.
Tiwtoriaid
clare e. potter
Jill Teague
Mae Jill Teague (nhw/eu) yn awdur, hwylusydd ac yn Ymarferydd Therapi Barddoniaeth sy’n byw yn Eryri. Mae’n nodi fod byw a gweithio mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol wedi chwarae rhan allweddol yn eu hiechyd a’u llesiant, ac yn parhau i fod o help er mwyn ysbrydoli eu hymarfer presennol. Mae Jill yn Gyfarwyddwr Gweithredol i iaPOETRY (yr Academi Ryngwladol ar gyfer Therapi Barddoniaeth), ac yn Uwch Fentor ar gyfer yr academi – gan fentora a hyfforddi Ymarferwyr Therapi Barddoniaeth newydd, a’r rheiny sy’n dymuno dod yn fentoriaid. Mae Jill wedi derbyn nifer o wobrau ac ysgoloriaethau gan NAPT (National Association for Poetry Therapy) a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar gyfer gwaith arloesol ym maes therapi barddoniaeth, yn ogystal ag ysgoloriaethau gan BridgeXngs Poetry Centre, Efrog Newydd. Sefydlodd Jill Out of the Blue Writing, sef cwmni sy’n hwyluso grwpiau ysgrifennu, yn gweithio gydag unigolion ac yn darparu cyrsiau ar-lein.
Darllenydd Gwadd
Patrick Jones
Bardd a dramodydd o’r Coed Duon yw Patrick Jones. Mae wedi gweithio’n helaeth gyda chymunedau a sefydliadau iechyd. Ar hyn o bryd, mae’n awdur preswyl gyda Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ac mae wedi gweithio hefyd gyda’r Forget Me Not Chorus, côr o bobl sy’n byw â dementia, ar brosiect i gofnodi caneuon anwylaf yr aelodau a’r straeon y tu ôl iddynt. Mae Patrick hefyd wedi gweithio gyda Mind Cymru, y Samariaid, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Ysbyty Felindre, The Big Issue, a sawl corff arall ar brosiectau ysgrifennu amrywiol sy’n hybu iechyd a lles. Ei gyfrolau ddiweddaraf yw My Bright Shadow (Rough Trade Books, 2019), casgliad o gerddi sy’n trafod galar, bywyd a chariad, a Fuse/Fracture (Parthian Books, 2021).