Wrth ei gwaith bob dydd mae Mererid Hopwood yn Athro yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth. Aeth ieithoedd a llenyddiaeth â’i bryd ers dyddiau ysgol. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, ac enillodd ei chasgliad o gerddi, Nes Draw (Gwasg Gomer, 2015), wobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016. Bu’n Fardd Plant Cymru a derbyniodd wobr Tir na n-Óg am un o’i nofelau i blant yn 2018. A hithau bellach yn fam-gu i bump, mae wrth ei bodd yn creu pob math o storïau i gadw’r wyrion a’r wyresau yn ddiddan. Mae wedi mwynhau cyfleoedd niferus i drafod llenyddiaeth mewn cymdeithasau a dosbarthiadau ledled Cymru, gan fentro weithiau i gymryd rhan mewn gwyliau llenyddol dramor. Mae’n talyrna ac ymrysona ac yn aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin. Derbyniodd Fedal Glyndŵr, Medal Dewi Sant y Prif Weinidog a Medal Gŵyl y Gelli am ei chyfraniad i lenyddiaeth, ac mae’n un o lywyddion anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Tu hwnt i’r ymwneud â llenyddiaeth, mae’n ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru, lle cafodd wefr arbennig eleni o fod yn rhan o brosiect ‘Hawlio Heddwch’ sy’n dathlu canrif Deiseb Heddwch menywod Cymru.