Angharad Tomos yw un o hoff awduron plant Cymru. Hi greodd cyfres hynod boblogaidd Rwdlan ac yn 1986 enillodd wobr Tir na n-Og am ei chyfrol Llipryn Llwyd o’r gyfres honno. Derbyniodd y wobr am yr eilwaith yn 1993 am Sothach a Sglyfath, ac yn 2009, cyflwynwyd Tlws Mary Vaughan Jones iddi am ei chyfraniad sylweddol i lenyddiaeth plant. Mae hi hefyd yn awdur toreithiog i oedolion. Enillodd Medal Lenyddiaeth Eisteddfod yr Urdd yn 1982, a Medal Lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith yn 1991 am Si Hei Lwli ac yna yn 1997 am Wele'n Gwawrio. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi troi at ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc. Cyhoeddwyd Darn Bach o Bapur am hanes y Beasleys yn 2014, yna Paent yn 2016 am yr arwisgo a'r ymgyrch beintio, ac i ddathlu canrif ers rhoi'r bleidlais i ferched, cyhoeddwyd Henriett y Syffrajet yn 2018. Cyhoeddir ei gwaith gan Y Lolfa a Gwasg Carreg Gwalch.