Yn Mehefin 2024, cyhoeddodd Iola Ynyr gofiant creadigol gyda'r Lolfa, Camu. Cyfrannodd at gyfrol Un yn Ormod, profiadau unigolion a'u perthynas ag alcohol, a gyhoeddwyd gan y Lolfa yn 2021. Cyhoeddodd erthygl yn Rhifyn 6: Pontydd, Codi Pais 2020. Cyhoeddodd ddrama Anne Frank gan Gomer yn 2013. Cyhoeddwyd y ddrama, C'laen yn y gyfrol Nid ar chwarae bach gan Cyngor Celfyddydau Cymru fel cyfres o wyth drama theatr mewn addysg yn 2005.
Cwrs Undydd: Ysgrifennu Hunangofiant
Bydd y cwrs yn rhoi sylw manwl i fwriad y cofiant a’r hunangofiant, ac yn archwilio sut mae ysgrifennu mewn modd sy’n cydymdeimlo gyda’r hunan a’r gorffennol.
Fel grŵp ac fel unigolyn, byddwch yn ystyried yr hyn sy’n unigryw am y ffurf a sut mae mynegi profiadau personol, atgofion ac hanesion gan hefyd gadw mewn cof arddull, naratif a chynulleidfa.
Bydd eich tiwtor, Iola Ynyr yn eich helpu i ganfod golygfeydd trawiadol fydd yn siapio adeiladwaith eich cofiant gan ddewis ieithwedd i’w gynrychioli. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i ddychmygu delweddau a sain eich golygfeydd trwy ddulliau synhwyrus. Yn ystod y dydd, bydd Iola hefyd yn cynnig gofod i drafod yr oblygiadau moesol o gyhoeddi cofiant tra hefyd yn eich annog i ystyried y gwaddol bydd eich cofiant yn ei adael i’ch darllenwyr ochr yn ochr gyda grym geiriau i ysgogi newid cymdeithasol.
Byddwch yn cael eich annog i ysgrifennu yn greadigol ar ddigwyddiadau arwyddocaol yn eich bywydau a darganfod ffyrdd o roi newydd wedd ar fywyd sy’n gyfarwydd i chi. Ymunwch gyda ni am ddiwrnod o ysgrifennu ac hel atgofion, gydag anogaeth i drin eich gwaith a’ch hunain gyda chariad, pharch ac empathi.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.