Mae Fflur Dafydd yn nofelydd, sgriptwraig a cherddor o Gaerfyrddin. Enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2009 am ei nofelau Atyniad (Y Lolfa, 2006) a Y Llyfrgell (Y Lolfa, 2009), ac y mae hefyd wedi cyhoeddi tair nofel Saesneg - Twenty Thousand Saints (Alcemi, 2009, enillydd Gwobr Oxfam & Gŵyl y Gelli 2009), The White Trail (Poetry Wales Press, 2011) a The Library Suicides (Hodder & Stoughton, 2023). Ei chyfresi teledu diweddar yw Parch, Yr Amgueddfa, 35 awr a 35 Diwrnod. Enillodd ei haddasiad ffilm o Y Llyfrgell wobrau BAFTA Cymru a Gwyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin. Ei nofel nesaf fydd The House of Water (Hodder and Stoughton, 2025).
Cwrs Undydd: Ysgrifennu Ffuglen Drosedd Afaelgar
Ymunwch gyda ni am ddiwrnod llawn dirgelwch, cwestiynu, a chynllwynio! Bydd y cwrs undydd hwn o dan ofal yr awdur arobryn, Fflur Dafydd, sy’n meddu ar dros ddegawd o brofiad yn ysgrifennu ffuglen drosedd ar draws sawl cyfrwng megis teledu, radio, ffilm a llenyddiaeth. Yn ogystal â’ch tywys drwy elfennau sylfaenol ysgrifennu trosedd llwyddiannus, bydd y cwrs hefyd yn ymdrin â ffyrdd o greu cymeriadau cofiadwy a chredadwy, ysgrifennu deialog bachog, creu plot sydd am synnu eich darllenwyr ond sy’n dal dŵr, ystyried a chyfleu lleoliad fel cymeriad, a mwy. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp, ac yn cael eich cyflwyno i esiamplau newydd o ysgrifennu trosedd ac ymarferion creadigol i roi hwb i’ch dychymyg. P’un a ydych yn ddechreuwr pur neu eisoes gydag ychydig o brofiad, bydd y cwrs yn siŵr o’ch helpu i fynd a’ch ysgrifennu trosedd gam ymhellach eto.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. |
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.