Cwrs Undydd: Ysgrifennu eich Nofel Gyntaf

Sad 20 Medi 2025
Tiwtor / Ffion Dafis
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genre / Ffuglen
Iaith / Cymraeg

Sut mae ysgrifennu nofel afaelgar? Dyna i chi gwestiwn! Bydd y cwrs undydd hwn yn mynd ati i egluro’r camau, o’r syniad cychwynnol hyd at y drafft olaf. Bydd y diwrnod o dan arweiniad yr awdur arobryn Ffion Dafis a fydd yn cynnig gofod cefnogol a hwyliog i chi ddod o hyd i syniadau newydd, deall eich cymeriadau’n well, ysgrifennu deialog credadwy, a strwythuro eich naratif. Bydd Ffion hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau am y byd cyhoeddi ac egluro gwahanol ffyrdd o rannu eich gwaith gyda’r byd. P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur neu eisoes gydag ychydig o brofiad ysgrifennu, bydd y cwrs undydd hwn yn cynnig yr ysbrydoliaeth a’r cyngor ymarferol sydd eu hangen arnoch.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod os ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Ffion Dafis

Mae Ffion Dafis yn enwog fel actores a chyflwynwraig ar radio a theledu. O Fangor yn wreiddiol, mae'n adnabyddus am chwarae rhan Llinos yn y gyfres deledu Amdani a Rhiannon yn Byw Celwydd ar S4C. Bu'n actio rhan yr Arglwyddes Macbeth yng nghynhyrchiad arloesol Theatr Genedlaethol Cymru o ddrama Shakespeare yng Nghastell Caerffili yn 2017. Hi yw cyflwynydd Stiwdio, rhaglen gelfyddydau BBC Radio Cymru. Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Syllu ar Walia’: Ysgrifau am fywyd, Cymru a thu hwnt gyda Gwasg Y Lolfa yn 2017 a chyhoeddodd ei hail lyfr, ei nofel gyntaf, Mori yn 2021, eto gyda Gwasg Y Lolfa. Aeth y nofel bwerus hon ymlaen i gipio Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811