Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Zines wedi troi’n ffurf fwyfwy poblogaidd o rannu straeon, gwaith a syniadau creadigol. Mae’r llyfrynnau hyn yn cynnig cyfleoedd cyffrous i awduron ac artistiaid ynghyd arbrofi gyda sawl cyfrwng a chyfuno geiriau a chelf gweledol mewn ffyrdd difyr, gwreiddiol a phryfoclyd.
Yn ystod y cwrs undydd hwn, byddwch yn cael cyfle i greu zine eich hun o dan arweiniad y crëwr zine profiadol Elin Angharad, curadur Llyfrgell Zine Cymru. O’r cynllunio, curadu cynnwys a geiriau, dysgu technegau collage, i ddylunio fformat a gosodiad tudalennau ac archwilio dulliau arbrofol o blygu eich llyfrynnau, bydd eich tiwtor yno i’ch annog, cynghori a chefnogi. Mae’r cwrs yn addas i feirdd a llenorion ynghyd, yn ogystal ag artistiaid gweledol. Bydd croeso i chi ddod â geiriau a lluniau eich hunain i’r cwrs, neu bydd amrywiaeth o adnoddau ar gael yn ystod y dydd hefyd. Yn ystod y dydd, byddwch hefyd yn cael eich annog i ddysgu rhagor am hanes zines ac sut i addasu ‘camgymeriadau’ fel rhan annatod o broses creu. Felly ymunwch gyda ni, a dewch yn barod i fod yn chwareus gyda delweddau a geiriau a siapio a ffurfio eich creadigrwydd mewn ffordd gwbl newydd.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.