Mae Gruffudd Owen yn fardd, sgriptiwr teledu a dramodydd sy’n gweithio ar ei liwt ei hun. Mae Gruffudd wedi perfformio ei gerddi i blant ac oedolion ar hyd a lled y wlad a fo oedd Bardd Plant Cymru 2019-2021. Mae wedi sgriptio ar gyfer cyfresi Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Stad. Aeth ei ddrama-gomedi ‘Parti Priodas’ ar daith gyda’r Theatr Genedlaethol yn ystod Gwanwyn 2024. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 a daeth ei gyfrol Mymryn Rhyddid (Cyhoeddiadau Barddas, 2023) i’r brig yng nghategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2024.
Cwrs Undydd: Chwerthin Chwartiau: Ysgrifennu gweithiau gyda hiwmor
Ymunwch gyda ni am ddiwrnod hwyliog a digrif yn trafod y sgil o ysgrifennu comedi sy’n cydio yn eich cynulleidfa a’ch darllenwyr o’r linell gyntaf tan y linell olaf un. Yn ystod y cwrs bywiog hwn, o dan ofal yr awdur, bardd a sgriptiwr adnabyddus Gruffudd Owen byddwch yn cael cyfle i dreialu syniadau newydd a myfyrio ar sut i blethu hiwmor mewn i sawl ffurf megis barddoniaeth, ffuglen a sgript. Sut mae canfod cydbwysedd rhwng y llon a’r lleddf? Sut mae creu cymeriadau doniol, unigryw, ecsentrig gall eich cynulleidfa dal uniaethu gyda nhw? Sut mae gwrthdroi ystrydebau? Sut mae synnu eich cynulleidfa a rhoi tro yn nghynffon y jôc? P’un a’i ydych chi’n ddechreuwr pur, neu’n unigolyn sydd ag ychydig o brofiad eisoes, bydd y cwrs undydd hwn yn siŵr o roi hwb i’ch hyder a’ch helpu i ddatblygu elfen o hiwmor yn eich gwaith. Bydd y diwrnod hefyd yn gyfle i greu cymuned o gyd-awduron a chlowniaid fydd yn parhau ymhell ar ôl y cwrs orffen. Dewch yn barod i ysgrifennu, chwarae a fwy na’m byd chwerthin chwartiau.
Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn edrych am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.
Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.