Cwrs Undydd: Barddoniaeth

Sad 7 Mawrth 2026
Tiwtor / Marged Tudur
Ffi’r Cwrs / O £35 y pen
Genre / Barddoniaeth
Iaith / Cymraeg

Ymunwch gyda ni yng Nghanolfan Tŷ Newydd am ddiwrnod yng nghwmni y bardd adnabyddus a’r tiwtor a golygydd profiadol, Marged Tudur. Mewn gofod cefnogol, byddwch yn cael eich annog i ddod o hyd i syniadau a mynegiant newydd ar gyfer eich cerddi, dysgu sut i hunan-olygu a mireinio eich gwaith, ac ehangu eich dealltwriaeth o’r byd cyhoeddi. Bydd y cwrs byr hwn hefyd yn gyfle i feddwl am y broses o ganfod llais creadigol gwreiddiol, cynnil a thelynegol sy’n teimlo’n driw i chi a’ch gwaith. Bydd cyfle i drafod, rhannu syniadau, a chreu cymuned greadigol o gyd-feirdd fydd yn parhau ymhell ar ôl y cwrs. P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur, neu’n unigolyn sydd ag ychydig o brofiad o farddoni eisoes, bydd y diwrnod hwn yn siŵr o roi hwb i’ch hyder a’ch ysgogi i fynd â’ch barddoni gam ymhellach.

Mae ein cyrsiau undydd yn addas i unigolion sydd heb brofiad o gwbl yn y byd ysgrifennu creadigol, a hefyd i’r rhai â pheth profiad eisoes. Mewn awyrgylch groesawgar, gynnes, bydd cyfle i chi ddysgu gan diwtoriaid sydd yn arbenigwyr yn eu maes. Mae croeso i’r chwilfrydig, ac i’r rheiny sydd yn chwilio am ddiwrnod o hwyl ac am gael dysgu rhywbeth newydd. Os am drafod a ydy’r cwrs hwn, neu unrhyw un o gyrsiau rhaglen 2025 yn addas i chi, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol.

 

Bydd te, coffi a byrbrydau ar gael drwy’r dydd, a gweinir cinio ysgafn i bawb fel rhan o bris y cwrs. Os yn teithio o bell, neu awydd aros dros nos, holwch ni am bris llety neu cymrwch gip ar ein Bwthyn Encil Awduron, Nant.

Tiwtor

Marged Tudur

Mae Marged Tudur yn fardd, yn olygydd a darlithydd o Forfa Nefyn, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, derbyniodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Wedi gweithio fel golygydd a phennaeth llyfrau Cymraeg gwasg Y Lolfa ac fel darlithydd Cymraeg Safon Uwch yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, mae bellach yn darlithio yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Yn 2020 cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Mynd (Gwasg Carreg Gwalch). Enillodd y gyfrol wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 yn y categori Barddoniaeth. Mae’n aelod o dîm Talwrn Dros yr Aber efo Rhys Iorwerth, Iwan Rhys a Carwyn Eckley, tîm sydd wedi ennill y gyfres bedair gwaith.

Archebu Arlein

Talu â siec?

Pe hoffech dalu â siec, defnyddiwch y ffurflen archebu arlein a dewis ‘Talu â Siec’ yn yr opsiynau talu.

Beth ddyliwn i ddisgwyl?

Am wybodaeth ymarferol o’r hyn sydd yn digwydd yn ystod cwrs neu encil yn Nhŷ Newydd, beth am ddarllen ein rhestr o gwestiynau cyffredin?

Angen Cymorth?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych yn cael problem archebu arlein, rhowch alwad ffôn…

+44 (0) 1766 522 811