Mae Rebecca Wilson (Hi/Ei) yn Gymraes Iddewig o Ddinorwig sy’n actor, awdur, ac yn goreograffydd ymladd. Ers astudio yn ysgol actio Arts Ed ac East 15 mae hi wedi gweithio i Theatr Clwyd, Cwmni Theatr Arad Goch, Theatr Genedlaethol Cymru, MET Film School, London Film School, BBC Radio Wales, Theatr y Sherman, Brixton House, National Theatre Productions a Frantic Assembly mewn rolau creadigol o bob math.
O’r dudalen i’r llwyfan: Dysgu i berfformio dy waith creadigol
6.00 – 7.30 pm
Beth yw’r broses o drosglwyddo gwaith creadigol o’r dudalen i’r llwyfan? Pa fath o arddull a llais sy’n benthyca eu hunain i gael eu perfformio ar lafar? Ymunwch â’r actor a’r awdur Rebecca Wilson am sesiwn fywiog fydd yn eich sbarduno i berfformio eich gwaith, boed hynny’n fonolog, cerdd, ysgrif, neu’n ddarn o ryddiaith. Mi fydd Rebecca hefyd yn rhannu technegau defnyddiol i fachu sylw eich cynulleidfa wrth drafod pwysigrwydd anadl, symudiad a seibiau. P’un a’i rydych yn berfformiwr sydd eisiau ysgrifennu, neu’n awdur eisiau datblygu eich sgiliau perfformio bydd y sesiwn hon yn siŵr o’ch ysgogi a’ch ysbrydoli a chynyddu eich hyder yn y ddau faes.
Mae croeso i chi ddod ag esiampl o waith ysgrifennu eich hun i’r gweithdy i’w berfformio, neu ddarn o ysgrifennu creadigol sy’n agos at eich calon.
Yn dilyn y gweithdy, darperir adnoddau gyda’r gweithdy hwn i ymestyn eich astudiaeth, eich helpu gydag ysgrifennu pellach, a’ch cyfeirio at gyfleoedd cyhoeddi yn y ffurf hon.