Mae Ella Risbridger yn awdur ac yn olygydd. Roedd ei llyfr cyntaf poblogaidd, Midnight Chicken (& Other Recipes Worth Living For) (Bloomsbury Publishing, 2019), yn Llyfr y Flwyddyn gan The Sunday Times, ac enillodd Wobr Llyfr Coginio y Flwyddyn y Guild of Food. Mae ei llyfr coginio diweddaraf, The Year of Miracles (recipes about love + grief + growing things) (Bloomsbury Publishing, 2022), wedi cyrraedd rhestr hir Gwobrau Andre Simon, yn Llyfr Gorau Waterstones 2022; a chafodd ganmoliaeth gan Nigella Lawson, Nigel Slater, Diana Henry, a llawer mwy. Mae’r llyfr wedi’i osod yn rhannol (drwy gyd-ddigwyddiad hyfryd!) yng Nghricieth, y dref agosaf at Dŷ Newydd. Mae hi hefyd yn ysgrifennu llyfrau plant; blodeugerddi barddoniaeth; a newyddiaduraeth, gan gynnwys ar gyfer The Observer, The Financial Times, a Vogue. Mae ei llyfrau wedi'u cyfieithu i sawl iaith, gan gynnwys Rwsieg a Tsieinëeg. Mae hi'n byw yn Llundain gyda miloedd o lyfrau ac un gath.