Gwyneth Lewis oedd Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru 2005-06 ac awdur y geiriau chwe throedfedd o uchder ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru. Mae hi'n fardd arobryn yn y Gymraeg a'r Saesneg a dyfarnwyd MBE iddi am ei gwasanaethau i lenyddiaeth ac iechyd meddwl yn 2022. Cyhoeddwyd Sunbathing in the Rain: A Cheerful Book about Depression yn 2002 (HarperCollins); Nightshade Mother: A Disentangling, am gam-drin emosiynol mam yn 2024 (Gwasg Prifysgol Cymru), First Rain in Paradise (Bloodaxe Books, 2025) yw ei chasgliad mwyaf diweddar o farddoniaeth. Mae Gwyneth yn dysgu yn Ysgol Saesneg Bread Loaf Coleg Middlebury yr Unol Daleithiau ac mae wedi bod yn Artist Preswyl yng Ngholeg Balliol, Rhydychen am y tair blynedd diwethaf.
Barddoniaeth er Llesiant
Nid therapi yw ysgrifennu – ond gall fod yn ymarfer therapiwtig. Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi sut i ystyried ysgrifennu mewn ffordd sy’n cefnogi eich llesiant – gan gynnig cysylltiad, dealltwriaeth, mynegiant, archwiliad a mwynhad, tra hefyd yn trafod peryglon gofynion barddoniaeth a’r datguddio sy’n gysylltiedig â’r ffurf lled-gyhoeddus hon o gyfathrebu.
Gan ddefnyddio cyfuniad o ymarferion darllen ac ysgrifennu, ochr yn ochr â meithrin cysylltiad â’r tirwedd a gyda’ch gilydd, byddwch yn ystyried sut i ddweud beth rydych wir yn ei olygu wrth archwilio materion cymhleth a thechnegau o fynd i’r afael â phoen ai osgoi wrth ysgrifennu. Byddwn yn ystyried diogelu; sut i drafod ofn ac anghysur; sut i amddiffyn ein hunain rhag blinder, barn a hunanfeirniadaeth.
Bydd y tiwtoriaid Clare Shaw a Gwyneth Lewis yn defnyddio eu profiad o ysgrifennu am gariad, methiant, poen a dygnwch i’ch arwain drwy gydol yr wythnos. Bydd Gwyneth yn hapus i ddarllen gwaith creadigol yn Gymraeg.
Tiwtoriaid
Gwyneth Lewis
Clare Shaw
Mae gan Clare Shaw (nhw/eu) bedwar casgliad o farddoniaeth gyda Bloodaxe. Mae eu pedwerydd casgliad - Towards a General Theory of Love (2022) - yn archwiliad o gariad a'i absenoldeb: enillodd Wobr Awdur y Gogledd, a fe’i ddyfarnwyd yn Llyfr y Flwyddyn gan y Gymdeithas Farddoniaeth. Gyda chefndir mewn iechyd meddwl ac addysg, mae Clare yn eiriolwr brwd dros ysgrifennu fel ffordd o newid cymdeithasol a phersonol. Mae Clare yn diwtor, mentor a darlithydd ar gyfer sefydliadau gan gynnwys Prifysgol Huddersfield, Wordsworth Grasmere, y Gronfa Lenyddol Frenhinol a New Writing North. Trwy eu hysgrifennu, addysgu a gweithredu, mae eu gwaith yn aml yn ymgysylltu â chroestoriadau ecoleg, trawma, gwytnwch a chyfiawnder cymdeithasol.
Darllenydd Gwadd
Abeer Ameer (Digidol)
Mae Abeer Ameer yn fardd o gefndir Iracaidd, sy'n byw yng Nghaerdydd. Hyfforddodd fel deintydd yn Llundain gan ddatblygu diddordeb mewn trin cleifion sy’n dioddef o orbryder a meddylgarwch. Mae ei cherddi yn cael eu hysbrydoli'n aml gan straeon am Irac ac maent yn cynnwys amrywiaeth o themâu personol a gwleidyddol. Maent wedi eu cyhoeddi mewn sawl lle ar-lein ac mewn cyhoeddiadau print gan gynnwys: Acumen, Poetry Wales, Magma, New Welsh Reader, The Rialto a The Poetry Review. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Inhale/ Exile, gan Seren ym mis Chwefror 2021 a cyrhaeddodd restr fer Categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022.