Bydd chweched casgliad Clare Pollard o farddoniaeth, Lives of the Female Poets, yn cael ei gyhoeddi gan Bloodaxe yn 2025. Bu'n Olygydd Barddoniaeth Fodern mewn Cyfieithiad am bum mlynedd ac ar hyn o bryd mae'n Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Farddoniaeth Winchester. Yn 2022, cyrhaeddodd ei cherdd 'Pollen' – a gyhoeddwyd gyntaf yn Bad Lilies – restr fer Gwobr Forward am y Gerdd Unigol Orau. Mae ei chyfieithiadau yn cynnwys Heroines Ovid, a deithiodd fel sioe un wraig gyda Jaybird Live Literature. Mae Clare hefyd yn gweithio ar draws genres llenyddol eraill. Perfformiwyd ei drama The Weather yn Theatr y Royal Court. Mae hi wedi ysgrifennu llyfr ffeithiol, Fierce Bad Rabbits: The Tales Behind Childrens' Picture Books (Penguin, 2020), ei nofel gyntaf i blant, The Untameables (The Emma Press, 2024), a dwy nofel i oedolion, Delphi (Penguin, 2023) a The Modern Fairies (Penguin, 2024). Yn ddiweddar fe'i gwnaed yn Gymrawd y Gymdeithas Llenyddiaeth Frenhinol.
Barddoniaeth: Canfod dy lais
Yn y gyfrol, ‘The Art of Voice’ mae’r bardd Tony Hoagland yn nodi bod ‘llais yn ymgorffori, nid unrhyw set o ffeithiau penodol, ond presenoldeb hunan, personoliaeth neu ymdeimlad’. Dros wythnos o weithdai dan arweiniad Clare Pollard ac Owen Sheers ac amser ysgrifennu unigol, byddwn yn edrych ar yr ‘Fi’ mewn barddoniaeth delynegol a chyffesol, gan ganolbwyntio ar feysydd fel tafodiaith, arddull, perfformiad a’r cwestiwn o ‘ddilysrwydd’. Byddwn hefyd yn meddwl am yr ‘arall’ barddonol, a sut i greu lleisiau unigryw ar gyfer cymeriadau, gan gyfeirio at fonologau dramatig, cerddi ffilm wedi’u hysbrydoli gan berfformiadau llafar a dramâu barddonol. Gallwch ddisgwyl sesiynau tiwtorial un i un gydag adborth wedi’i deilwra ar eich gwaith, gweithdai grŵp bywiog, ymarferion gwreiddiol ac awgrymiadau i’ch annog i feddwl ac ysgrifennu mewn ffyrdd newydd ac os dymunwch, digon o gyfleoedd cefnogol i ddarllen yn uchel.
Bwrsariaethau
Mae un ysgoloriaeth gwerth £250 ar gael ar gyfer y cwrs hwn. I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais yma.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mawrth 22 Gorffennaf 2025.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael, ewch i’n tudalen Cymorth Ariannol: https://www.tynewydd.cymru/cyrsiau-ac-encilion/cymorth-ariannol/
Tiwtoriaid
Clare Pollard
Owen Sheers
Mae llyfrau barddoniaeth Owen Sheers yn cynnwys Skirrid Hill (Seren 2004), enillydd Wobr Somerset Maugham, a’r ddrama ryddieithol Pink Mist (Faber, 2013), a ddewiswyd fel un o ddeg drama gorau’r flwyddyn gan The Guardian ac a enillodd yr Fedal Barddoniaeth Gŵyl y Gelli a Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Cyfieithwyd ei nofel gyntaf Resistance (Faber, 2007) i 15 iaith a’i haddasu’n ffilm. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf, I Saw a Man (Faber, 2015) restr fer y Prix Femina étranger. Enillodd The Green Hollow (Faber, 2016) ,cerdd-ffilm Owen a enwebwyd ar gyfer gwobr BAFTA dair gwobr BAFTA Cymru. To Provide All People (Faber, 2018) yw ei gerdd-ffilm ddiweddaraf, a ysgrifennwyd i nodi 70 mlynedd ers sefydlu’r GIG. Yn gyn-gymrawd NYPL Cullman, Awdur Preswyl yn The Wordsworth Trust ac Artist Preswyl Undeb Rygbi Cymru, enillodd Owen Wobr Dewi Sant 2016 am Ddiwylliant a Gwobr Farddoniaeth Wilfred Owen 2018. Ef yw cadeirydd PEN Cymru ac y mae’n Athro mewn Creadigrwydd ym Mhrifysgol Abertawe.
Darllenydd Gwadd
Dzifa Benson (Digidol)
Ganed Dzifa Benson yn Llundain i rieni o Ghana a chafodd ei magu yn Ghana, Nigeria a Togo. Mae hi bellach wedi’i lleoli yn Llundain ac mae’n artist arobryn sydd a’i gwaith amlgyfrwng yn croestorri llenyddiaeth, gwyddoniaeth, theatr, celf, y corff, defodau, perfformio a thechnolegau trochi. Mae ei gwaith wedi derbyn cymrodoriaeth gan Sefydliad Jerwood ac wedi cyrraeddr rhestr fer Gwobr Barddoniaeth James Berry a Gwobr Farddoniaeth Bridport. Mae beirniadaeth gelfyddydol Dzifa ar theatr, llenyddiaeth a cherddoriaeth yn ymddangos yn The Financial Times, The Telegraph and Poetry Review ymhlith cyhoeddiadau eraill ac mae hi wedi cynnal preswylfeydd barddoniaeth, curadurol a golygyddol yn y Whitstable Biennale, Oriel Orleans House a Granta Magazine. Teithiodd ei haddasiad o gynhyrchiad 2021 y National Youth Theatre o Othello ledled y DU ac ar hyn o bryd mae’n addasu A Portable Paradise, a enillodd wobr Roger Robinson, ar gyfer yr un llwyfan. Mae gan Dzifa radd meistr mewn Testun a Pherfformiad gan RADA a Birkbeck, a dewiswyd ei chasgliad barddoniaeth cyntaf, Monster, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books fel Llyfr Barddoniaeth y MisThe Guardian.