Polisi Cwcis

Cwcis

Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut a pham rydyn ni’n defnyddio cwcis ar ein gwefan, ac yn cynnig adnoddau a fydd yn caniatáu ichi wneud penderfyniad doeth ynglŷn â derbyn, gwrthod neu ddileu unrhyw gwcis a ddefnyddiwn.

Wrth ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cydsynio i ni ddefnyddio cwcis, felly argymhellwn eich bod yn darllen drwy’r wybodaeth isod. Mae’n rhan o’n Telerau ac Amodau, ynghyd â’n Hysbysiad Preifatrwydd GDPR.

Gall y polisi hwn ar gwcis newid unrhyw bryd, felly dylech gyfeirio ato’n rheolaidd.

 

Beth yw cwci?

Ffeil fechan o lythrennau a rhifau yw cwci, y bydd gwefan yn ei chadw ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol, ac yn ei defnyddio i gofnodi darnau penodol o wybodaeth. Bydd cwcis yn aml yn cynnwys nod adnabod unigryw, anhysbys, sy’n golygu bod modd adnabod y data a gofnodir ganddynt fel data sy’n dod o le gwahanol i ddata eraill, heb ddatgelu eich gwybodaeth bersonol. Pan ewch i wefan, bydd yn gofyn caniatâd i storio cwci yn adran gwcis eich disg galed.

Defnyddir cwcis yn helaeth ar y we i sicrhau bod gwefannau’n gallu gweithio, yn gweithio’n fwy effeithlon, neu i ddarparu gwybodaeth am eich defnydd o’r wefan i berchennog y wefan neu drydydd parti arall. Er enghraifft, os ychwanegwch eitemau at fasged siopa, mae cwci’n caniatáu i’r wefan gofio pa eitemau rydych chi’n eu prynu, neu os mewngofnodwch i wefan, gall cwci eich adnabod yn ddiweddarach fel na fydd raid ichi roi eich cyfrinair i mewn eto.

Dylech fod yn ymwybodol os cyfyngwch ar gwcis y gall hynny effeithio ar effeithiolrwydd ein gwefan.

 

Gwahanol fathau o gwci

“Cwcis sesiwn” yw rhai cwcis, a gaiff eu storio tra rydych yn ymweld â gwefan benodol yn unig. Gall eraill fod yn “gwcis parhaol”, a gaiff eu storio yn ffeil gwcis eich porwr am gyfnodau hwy – weithiau hyd nes byddwch yn clirio storfa eich porwr â llaw, gan ddibynnu beth yw hyd oes y cwci penodol.

 

Sut y byddwn ni’n defnyddio cwcis?

Defnyddiwn gwcis i wella’r ffordd mae ein gwefan yn gweithio. Defnyddiwn gwcis trydydd parti a osodwyd gan Google Analytics hefyd i adolygu effeithiolrwydd ein gwefan.

 

Cwcis trydydd parti

Cwci sy’n gysylltiedig â pharth neu wefan wahanol i’r un rydych chi’n ymweld â hi yw cwci trydydd parti. Er enghraifft, ar y wefan hon defnyddiwn gwcis trydydd parti a adeiladwyd gan Google i alluogi dadansoddi’r wefan, ond gan nad yw ein gwefan ni ar barth Google, cwcis “trydydd parti” yw eu cwcis nhw.

Bydd cwci Google Analytics yn adnabod ac yn cyfrif y nifer o bobl sy’n ymweld â’n gwefan, yn ogystal â darparu gwybodaeth arall fel am ba hyd y bydd ymwelwyr yn aros, i ble maen nhw’n mynd ar ein gwefan, a pha dudalennau sy’n cael y nifer fwyaf o ymweliadau. Allwn ni ddim rheoli ymddygiad cwcis Google yn uniongyrchol, ac i gyfrif Google Analytics, nid i’n gwefan ni, y cyflwynir y wybodaeth a gasglant. Dyna pam mai cwcis trydydd parti ydyn nhw; caiff y wybodaeth am y wefan hon ei chyflwyno i wefan arall.

 

Google Analytics

Wrth ddefnyddio cwcis Google Analytics, mae’n gyfrifoldeb arnom ni i sicrhau bod y wybodaeth ganlynol ar gael i chi:

Mae’r wefan hon yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddeg y we a ddarperir gan Google Inc. (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis”, sef ffeiliau testun a osodir ar eich cyfrifiadur i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r wefan. Bydd y wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci ynglŷn â’ch defnydd o’r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo i Google a’i storio ganddo ar weinydd yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn mesur eich defnydd o’r wefan, creu adroddiadau ar weithgaredd y wefan ar gyfer gweithredwyr y wefan a darparu gwasanaethau eraill yn ymwneud â gweithgaredd y wefan a defnydd o’r rhyngrwyd. Fe all Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti lle bo hynny’n ofynnol dan y gyfraith, neu lle bo trydydd parti o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gydag unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis trwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr ond dylech nodi, os gwnewch hyn, na fyddwch efallai’n gallu defnyddio swyddogaethau llawn y wefan hon. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i Google gael prosesu data amdanoch chi yn y modd ac i’r dibenion a amlinellwyd uchod.

Nid yw Google Analytics yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am unrhyw ddefnyddwyr gwefan. Maent yn cynnig adolygiad cynhwysfawr o breifatrwydd ei data dadansoddol a’u ymrwymiadau diogelwch yn ei adran cymorth.

 

Defnyddio cwcis ar gyfer hysbysebu

Gall cwcis sicrhau ein bod yn hysbysebu’n fwy effeithiol gan gyrraedd ein cynulleidfa darged a deall pa mor dda y mae ein hymgyrchoedd yn gweithio. Gall cwcis sicrhau hefyd na fyddwch yn gweld yr un hysbyseb dro ar ôl tro, a fydd yn helpu i wella’ch profiad o bori’r we. Rydyn ni’n osgoi defnyddio’r math yma o gwcis ar y wefan hon.

 

Gwybodaeth bellach

I ddarllen mwy am y modd y defnyddir cwcis, eich hawliau, a sut i reoli neu ddileu cwcis, edrychwch ar yr adnoddau canlynol: