Daw Pelin Bilici o Dwrci yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw ym Merlin ac yn astudio ar gyfer gradd MA Mewn Astudiaethau Prydeinig yn yr Humboldt-Universität zu Berlin. Ar hyn o bryd mae’n treulio cyfnod o brofiad gwaith estynedig gyda Llenyddiaeth Cymru ac yn cefnogi amryw o brosiectau gwahanol ar draws y cwmni.
______________________________________________________________________________________________________
Ar ddydd Llun 5 Tachwedd 2018, fe deithiais o Gaerdydd i Gricieth i gymryd rhan mewn cwrs ysgrifennu creadigol preswyl, heb unrhyw syniad o’r hyn fyddai o fy mlaen i. Daeth Miriam, fy nghydweithwraig, i’m casglu oddi ar y trên yng Nghricieth, gan fynd â mi i Dŷ Newydd i gwrdd â’r 7 o fynychwyr eraill fyddai’n rhannu’r tŷ mawr clyd gyda mi am wythnos gron.
Ar noson gyntaf y cwrs, a hynny ar ôl llond bol o fwyd blasus gan Tony, cafwyd cyfle i ddod i adnabod pawb yn well, gan ddysgu mwy am y math o ‘sgwennu oedd pawb yn ei wneud. Roedd y tiwtoriaid, Marcus Sedgwick a Lucy Christopher, yn wych ac yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed.
Yn ystod y gweithdai boreol, buom yn trafod prif elfennau ffuglen. Rhannodd Marcus a Lucy eu profiadau hwy eu hunain gan gynnig nifer o enghreifftiau i ni ar y gwahanol elfennau a’r sgiliau defnyddiol sydd eu hangen er mwyn ysgrifennu ffuglen i oedolion ifanc yn effeithiol, a hynny gyda gogwydd personol. Dyma un o’r pethau pwysicaf i mi ddysgu trwy gydol yr wythnos – a bod straeon yn seiliedig ar agweddau a syniadau 8 unigolyn gwahanol yn ffurfio rhywbeth unigryw iawn.
Gyda’r nos, cawsom ddarlleniadau gan y tiwtoriaid, sesiynau un i un a nosweithiau gemau. Ar y nos Fercher, cawsom gwmni’r awdur Kiran Millwood Hargrave a ddaeth atom i ddarllen o’i llyfrau ac i siarad am ei phrofiadau hi fel awdur. Unwaith eto, daeth yn amlwg mai gwahaniaethau a safbwyntiau personol oedd yn gwneud ffuglen mor arbennig a hawdd i’w fwynhau. Fel rhywun o Dwrci, roedd hyn yn rhywbeth y gwnes ei fwynhau’n fawr gan i mi ddarganfod fy stori fy hun trwy rannu fy niwylliant a’m hatgofion gyda saith unigolyn arall. Roedd o’n her, ond yn hynod o ddefnyddiol er mwyn i mi wneud synnwyr o’r amgylchfyd o’m cwmpas.
Roedd Tŷ Newydd fel gofod hefyd yn ffactor amlwg o ran sylweddoli fy mhotensial fel awdur gan ei fod wastad yn le perffaith i gynhyrchu unrhyw fath o gelfyddyd. Nid yn unig y cynigiodd Tŷ Newydd yr awyrgylch yr oeddwn i angen i rannu syniadau gydag eraill, ond roedd yr adeilad ei hun gyda’i hanes a’i ddiwylliant yn asio’n berffaith gyda’n tasgau dydd i ddydd, ac yn hwb i’r awen greadigol.
Ni fuaswn i’n meddwl dwywaith cyn argymell cyrsiau ac encilion Tŷ Newydd i unrhyw un – mae rhywbeth arbennig iawn i’w ganfod yno.