Grym Geiriau / Write Back
Cwrs ysgrifennu creadigol teirieithog am ddim ar gyfer awduron 18 – 25 oed sydd yn f/Fyddar a/neu’n Anabl
Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, 7 – 9 Hydref 2022
Ymunwch â ni am benwythnos teirieithog (Cymraeg, Saesneg a BSL) o ysgrifennu creadigol, natur a ioga yn Nhŷ Newydd.
Cewch gyfle i gwrdd ag ysgrifenwyr ifanc eraill sydd yn f/Fyddar a/neu’n Anabl, yn ogystal â mwynhau gweithdai ysgrifennu a dysgu rhywfaint am y byd cyhoeddi. Ein bwriad yw ceisio cyhoeddi’r gwaith y byddwch yn ei greu yn ystod y cwrs.
Ein tîm:
Megan Angharad Hunter
Daw Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle ac yn ddiweddar, cwblhaodd radd Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 am ei nofel gyntaf i oedolion ifanc, tu ôl i’r awyr, cyn cyhoeddi ei hail nofel, Cat fel rhan o gyfres Y Pump a enillodd wobr Tir na n-Og 2022 fel cyfanwaith. Daeth hefyd yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2020/21 ac mae bellach yn gweithio fel awdur llawrydd.
Bethany Handley
Mae Bethany Handley yn fardd ifanc Anabl sydd yn byw yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei gwaith yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y cylchgrawn adnabyddus Poetry, Poetry Wales ac ar wefan y Poetry Foundation ac mae wedi ysgrifennu ar y cyd â Theatr Y Sherman; roedd yn rhan o’u cynllun Unheard Voices ar gyfer ysgrifenwyr a dangynrychiolir. Yn aml, mae hi’n archwilio natur ac ableddiaeth yn ei gwaith, gan dynnu o’i phrofiadau fel defnyddiwr cadair olwyn rhan amser. Mae gan Bethany hefyd gymhwyster athrawes ioga yin ac mae’n aelod o Gwmni Ifanc GALWAD.
Ebostiwch writebackteam@gmail.com am fwy o wybodaeth ac er mwyn ymgeisio.