Yn gynharach y mis hwn, cyrrhaeddodd Wicipedia Cymraeg garreg filltir wrth i’w 100,000fed erthygl arlein gael ei chyhoeddi. Yn ôl Wici Cymru: y llinyn mesur pennaf a ddefnyddir i ariannu’r Gymraeg o Ewrop yw nifer yr erthyglau ar Wicipedia. Hefyd, y llinyn mesur a ddefnyddir gan Google (ac felly llawer o gwmniau tebyg) cyn mynd ati i gyfieithu prosiectau yw’r nifer o erthyglau Cymraeg ar Wicipedia. Yn dilyn llwyddiant grwpiau Wici Caerdydd a Wici Môn, dyma fynd ati i greu Wici Tŷ Newydd.
Dewch i ddysgu mwy am brosiect Wici Cymru yng nghwmni’r tîm cenedlaethol. Bydd cyfle i ddysgu sut i fynd ati i olygu, cyfieithu ac ysgrifennu erthyglau eich hunain.
Lle? Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llanystumdwy, LL52 0LW
Pryd? Nos Fercher 23 Mai 2018, 5.00 – 8.00 pm.
Paned a bisgedi ar gael.
Am ragor o wybodaeth, ac i roi gwybod eich bod am ymuno â ni ffoniwch 01766 522 811 neu ebostiwch tynewydd@llenyddiaethcymru.org