Ddiwedd Mawrth mi adawais Ganolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd am dridiau i ymweld â chanolfan ysgrifennu arall, yng ngogledd eithaf yr Alban. Moniack Mhor yw canolfan ysgrifennu greadigol genedlaethol yr Alban, ac fe gododd gywilydd arnaf am ddisgrifio lleoliad Tŷ Newydd droeon fel “gwledig”. Wna i’m mo hynny eto ar frys. Er gwta hanner awr o Inverness, mae’r ganolfan i’w chanfod (neu ddim i’w chanfod, os aethoch ar goll fel wnes i…) ar lôn gul droellog wedi ei amgylchynu gan goedwigoedd bytholwyrdd a thir anial.
Hen dyddyn a beudai yw’r ganolfan, ac fe’i trawsnewidiwyd mewn i’r hyn yr ydyw heddiw yn 1992, ar ôl ymgyrch codi arian greadigol lle treuliodd 24 bardd 24 awr yn adrodd cerddi am nawdd. Mae naws greadigol Moniack Mhor wedi parhau, ac yn 2013 adeiladwyd y cwt hynod hwn (llun isod) yn yr ardd sy’n adleisio golygfeydd o lenyddiaethau ffantasi. Mae rhywbeth Tolkienaidd iawn ynddo sy’n siŵr o fod yn ysbrydoliaeth i’r awduron sy’n ymweld. Rwyf wedi rhoi’r cwt ar fy rhestr Nadolig, mi fyddai’n braf cael un tebyg yma yn Nhŷ Newydd. Yn ôl y sôn, mae hwn yn Moniack Mhor yn ddigon mawr i gynnal ceilidhs, byddai’n hwyl cael twmpath dawnsio gwerin yn yr ardd yma mewn cwt dan y sêr. Mae’n debyg y byddai angen lefelu’r ardd ychydig…
Y Cwt eco-gyfeillgar ym Moniack Mhor
Yng nghwmni Rachel, Cyfarwyddwr Moniack Mhor
Tu mewn i’r cwt ym Moniack Mhor
Yn y cwt
Arferai Moniack Mhor fod yn rhan o bartneriaeth sefydliad Arvon, sydd â thair canolfan ysgrifennu sefydledig ledled Lloegr. Yn 2015 daeth yn ganolfan annibynnol, cam mentrus ond cadarnhaol iawn sy’n eu galluogi i lywio dyfodol y ganolfan yn ôl eu gweledigaeth eu hunain.
Mae’r ganolfan yn un glyd, gyda’r ystafell fwyta a’r lolfa â’i waliau cerrig yn un ystafell, yn cael ei chynhesu gan stof goed. Mae’r gegin wedyn yn enfawr, gyda bwrdd pren cymunedol yn goron yn y canol. Mae’r holl le yn teimlo’n gartrefol, fel petai’n gartref i deulu mawr – sy’n wir i raddau, ond ei fod yn deulu gwahanol bob wythnos wrth gwrs.
Lolfa Moniack Mhor
Hoffwn ddiolch i staff y ganolfan am y croeso cynnes a gawsom, tîm bychan hynaws ydynt sy’n gweithio’n galed i sicrhau fod y ganolfan yn llwyddo yn dilyn ennill eu hannibyniaeth. Doedd yr un ohonynt i weld yn malio dim ei bod yn ŵyl y banc yn ystod ein hymweliad, a phawb wedi dod i’r gwaith fel arfer.
Roedd yn braf cael cyd-drafod heriau, problemau a dyheadau’r naill ganolfan a’r llall, a chanfod ein bod yn debyg iawn. Cyllidebau tebyg, trallod cynnal a chadw hen adeiladau, anawsterau marchnata a denu cwsmeriaid, a thostar y ddwy ganolfan wedi torri! Ond hefyd cariad ac ymroddiad y staff tuag at y canolfannau, ein hystyfnigrwydd i lwyddo yn erbyn pob anhawster, a’n hymgais i werthu ein gwledydd i’r byd drwy ein llenyddiaeth.
Roedd un aelod o’r staff yn rhugl yn yr Aeleg ar ôl dysgu’r iaith fel oedolyn, a bellach yn ei siarad fel iaith gyntaf gyda’i phlant adref. Trafodwyd y bydde’n werth chweil trefnu encil ar y cyd yn canolbwyntio ar y Gymraeg a Gaeleg yr Alban, sydd – gyda llaw – yn ddim byd tebyg! Treuliais fy nghyfnod yn yr Alban yn clustfeinio’n astud ar yr iaith yn ysu i gael dod o hyd i unrhyw debygrwydd, ond yn ofer.
Rwy’n edrych ymlaen at gynnal y berthynas rhwng ein dwy ganolfan, i gydweithio ac i gael dychwelyd yn ôl yno eto rhywbryd.
Chwilio am yr Aeleg
Tìoraidh ma-tha, Leusa.