Gyda chyfyngiadau’r Coronafeirws yn parhau, mae swyddfeydd Llenyddiaeth Cymru ar gau am y tro, a rhan helaeth o’n gweithgaredd wedi ei ohirio. Serch hynny, mae ein hymrwymiad i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru mor gadarn ac erioed.
Rydym ar hyn o bryd yn archwilio sut y gallwn barhau i sicrhau bod awduron, darllenwyr ac artistiaid yn cael eu cefnogi yn ystod yr amser ansicr hwn. Trwy roi gwybod i ni sut y gallwn helpu, byddwch yn cyfrannu at lunio ein rhaglen weithgareddau i weddu i anghenion awduron a darllenwyr Cymru.
Gwyddom fod gan ymgysylltu â llenyddiaeth amrywiaeth o fuddion cadarnhaol i lesiant pobl yng Nghymru ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn grymuso, gwella a bywiogi bywydau cymaint o bobl â phosibl.
Cwblhewch ein harolwg byr i rannu eich syniadau.
(Cliciwch yma i gwblhau’r Arolwg)
Os ydych yn awdur, artist, darllenydd, partner, yn gwylio neu yn gwrando ar lenyddiaeth, neu yn rhywun sydd â syniadau ar sut I ddatblygu llenyddiaeth yng Nghymru, hoffem dderbyn eich barn. Bydd eich adborth dienw yn ein helpu i ddatblygu’n gweithgarwch a’n gweithrediadau ymhellach, ynghyd â’n cyfeiriad strategol.
Bydd yn cymryd tua 8 munud i’w gwblhau. Diolch yn fawr i chi am eich amser.
Dyddiad cau’r arolwg yw 5.00 pm, 15 Mai 2020.