Mae’r New Welsh Review yn falch o gyhoeddi’r rhestrau byrion ar gyfer gwobrau’r New Welsh Writing 2019, gyda dau gategori eleni: Gwobr Aberystwyth ar gyfer Nofel Dystopian, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth, a Gwobr Rheidol ar gyfer Gweithiau gyda Thema neu Leoliad Cymreig, diolch i gefnogaeth hael ein tanysgrifiwr ffyddlon Richard Powell.
Mae tri awdur ym mhob categori, cymysgedd o egin awduron ac awduron profiadol, a bydd y ddau grŵp yn cystadlu am y brif wobr o £1,000 yr un. Mae’r rhestrau byrion fel a ganlyn:
Gwobr Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Nofel Dystopian – Rhestr Fer (yn nhrefn yr wyddor)
Rosey Brown (Caerdydd, Cymru) Adrift
JL George (Pontypŵl, Cymru) The Word
Rhiannon Lewis (Y Fenni, Cymru) The Significance of Swans
Gwobr Rheidol ar gyfer Gweithiau gyda Thema neu Leoliad Cymreig – Rhestr Fer (yn nhrefn yr wyddor)
Peter Goulding (Thetford, Lloegr) On Slate (Ffeithiol)
Richard John Parfitt (Penarth, Cymru) Tales from the Riverbank (Ffeithiol)
Sarah Tanburn (Penarth, Cymru) Hawks of Dust and Wine (Ffuglen)
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yn y Summer House yng Ngŵyl y Gelli ar ddydd Gwener 24 Mai rhwng 3.00 – 5.00 pm.
Bydd enillydd y ddau gategori yn derbyn £1,000 yr un, fel cyfraniad yn erbyn e-gyhoeddiad gan y New Welsh Review dan wasg New Welsh Rarebyte yn ogystal â beirniadaeth gynhwysfawr gan yr asiant llenyddol Cathryn Summerhayes o Curtis Brown. Yr ail wobrau yw taleb gwerth £300 tuag at gwrs ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, a’r drydedd wobr yw arhosiad dwy noson yn Llyfrgell Gladstone’s yn Y Fflint.
www.newwelshwritingawards.com #NewWelshAwards